
2016 Rhif 305 (Cy. 101)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016
Gwnaed 3 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2016
Yn dod i rym 1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 128, 129, 130, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
Diwygio’r Atodlenni i’r Rheoliadau Optegol
2 

(1) Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o’r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o dabl 1 isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o’r tabl isod:

Tabl 1
(1) Swm Blaenorol (2) Swm Newydd
£38.70 £39.10
£58.70 £59.30
£86.00 £86.90
£194.10 £196.00
£66.80 £67.50
£84.80 £85.60
£110.10 £111.20
£213.40 £215.50
£198.80 £200.80
£56.40 £57.00
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.50” rhodder “£12.60”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£15.20” rhodder “£15.40”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.30” rhodder “£4.40”;
(d) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.80” rhodder “£4.90”;
(e) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£63.60”, “£56.40” a “£30.50” rhodder “£64.20”, “£57.00” a “£30.80” yn eu trefn;
(f) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£63.60” rhodder “£64.20”;
(g) ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.50” rhodder “£14.60”; a
(h) ym mharagraff 2(b), yn lle “£37.00” rhodder “£37.40”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth drosiannol
3 
Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o’r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny y mae’r symiau a amnewidir gan reoliad 2 yn gymwys.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3rd March 2016
YR ATODLEN
Atodlen 3 i’r Rheoliadau Optegol fel y’i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn
Rheoliad 2(4)
“
SCHEDULE 3
Voucher Values Repair
Regulation 19(2) and (3)


(1)Nature of Repair (2)Letter of Codes - Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 12.15 22.25 36.05 90.60 26.35 35.40 48.20 100.35 93.00
Repair or replacement of two lenses 24.30 44.50 72.10 181.20 52.70 70.80 96.40 200.70 186.00
Repair or replacement of: the front of a frame 12.45 12.45 12.45 12.45 12.45 12.45 12.45 12.45 12.45
a side of a frame 7.35 7.35 7.35 7.35 7.35 7.35 7.35 7.35 7.35
the whole frame 14.80 14.80 14.80 14.80 14.80 14.80 14.80 14.80 14.80”