
2016 Rhif 29 (Cy. 11)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016
Gwnaed 13 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Ionawr 2016
Yn dod i rym 25 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 25 Chwefror 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 3 o Atodlen 2, ar ôl dosbarth G mewnosoder—“
Class H
Permitted Development

H. Development consisting of a change of use of a building to a use falling within Class C3 (dwellinghouses) of the Schedule to the Use Classes Order from a use falling within Class C4 (houses in multiple occupation) of that Schedule.
”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2016