
2016 Rhif 27 (Cy. 9)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016
Gwnaed 13 Ionawr 2016
Yn dod i rym
 1 Chwefror 2016
ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 1(1) 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 36 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2016 ac eithrio rheoliad 2 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 wedi eu dirymu.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sy’n athro neu athrawes ysgol—
(a) o fewn yr ystyr a roddir iddo yn rhes 1 o dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014; a
(b) nad yw’n athro neu athrawes ysgol DCAAY;ystyr “athro neu athrawes ysgol DCAAY” (“STPCDschool teacher”) yw person sy’n athro neu athrawes ysgol—
(a) o fewn yr ystyr a roddir iddo yn rhes 1 o dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014; a
(b) sy’n cael ei dalu yn unol â DCAAY;
 ystyr “Cofrestr” (“Register“) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;
 ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu sy’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;
 ystyr “DCAAY” (“STPCD”) yw’r ddogfen y cyfeirir ati yn y Gorchymyn a wneir yn flynyddol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 ac sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chyflog ac amodau athrawon ysgol;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy;
 ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014;
 ystyr “ffi’r categori cofrestru” (“category of registration fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â phob categori cofrestru a nodir yn rheoliad 4(1).
Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy
4 

(1) Y ffi gofrestru sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2016 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017 ac ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny yw—
(a) £78 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol DCAAY;
(b) £49 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol;
(c) £49 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol;
(d) £49 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes addysg bellach; ac
(e) £49 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.
(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd i gael ei roi’n gymhorthdal tuag at y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
(4) Pan fo person yn gwneud cais i gael ei gofrestru neu ei fod wedi ei gofrestru mewn mwy nag un categori cofrestru (“categorïau cofrestru perthnasol”)—
(a) dim ond ffi un categori cofrestru sy’n daladwy ar gyfer pob un o’r categorïau cofrestru perthnasol; a
(b) ffi’r categori cofrestru sy’n daladwy yw’r uchaf o’r ffioedd hynny ar ôl ystyried unrhyw gymhorthdal a bennir o dan baragraff (2).
Darpariaeth sydd i gael ei gwneud gan y Cyngor mewn perthynas â ffioedd
5 
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—
(a) i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—
(i) ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a
(ii) cadw cofnodion yn y Gofrestr; a
(b) bod eithriadau ac esemptiadau pan na fo ffioedd yn cael eu codi.
Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais
6 
Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn yr Atodlen iddo am unrhyw berson—
(a) sydd, ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor, naill ai wedi ei gyflogi neu fel arall wedi ei gymryd ymlaen gan y cyflogwr hwnnw i ddarparu gwasanaethau perthnasol; a
(b) y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
Didynnu ffi
7 

(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i gael ei ddidynnu gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 4(2).
(4) Ni chaniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—
(a) bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu
(b) ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
Talu ffioedd i’r Cyngor
8 
Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 7 dalu’r ffi honno i’r Cyngor.
Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi
9 
Wrth dalu’r ffi rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn yr Atodlen am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.
Methu â chyflawni dyletswydd
10 
Os yw person yn methu â chyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2016
YR ATODLEN
YR WYBODAETH SYDD I GAEL EI CHYFLENWI I’R CYNGOR
Rheoliad 6
1 
Enw llawn y person.
2 
Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.
3 
Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.
4 
Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.
5 
Enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn cael ei gyflogi neu lle y mae fel arall wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol.
6 
Rhif yswiriant gwladol y person.
7 
Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.
8 
Dyddiad geni’r person.
9 
Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).
10 
Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy asiantaeth, enw’r asiantaeth honno.