
2016 Rhif 266 (Cy. 99) (C. 15)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 6) 2016
Gwnaed 1 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 6) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 16 Mawrth 2016—
(a) adran 103 (dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedig);
(b) adran 104 (methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 103).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2016