
2016 Rhif 236 (Cy. 88)
Addysg, Cymru A Lloegr
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
Gwnaed 24 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Mai 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 55(1)(c) a 59 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn hwylus at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, neu o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf honno, wneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 a deuant i rym ar 1 Mai 2016.
RHAN 2 Diwygio deddfwriaeth sylfaenol
Diwygio Deddf Dysgu a Sgiliau 2000
2 
Yn adran 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—“
 “course of study” means a course of education or training that—
(a) leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
(b) is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.
Diwygio Deddf Addysg 2002
3 
Yn adran 97 o Ddeddf Addysg 2002 yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—“
 “course of study” means a course of education or training that—
(a) leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
(b) is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.
RHAN 3 Diwygio is-ddeddfwriaeth
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992
4 
Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992, fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—“
(iii) a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994
5 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994, fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—“
 “approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994
6 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994 yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—“
 “approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999
7 
Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999, o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—“
(f) a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007
8 
Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;
(b) yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—“
(da) Cymwysterau Cymru;
(dd) unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;”;
(c) yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a
(d) yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —“; ac
(e) unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—
(i) y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(ii) y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009
9 
Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009 ychwaneger—“
(x) Qualifications Wales.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009
10 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;
(b) yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac
(c) yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009
11 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—“
 mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
12 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011—
(a) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a
(b) yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.
Diwygio Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011
13 
Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;
(b) yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac
(c) yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011
14 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—“
 “rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—“
 mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(4) Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—“
(d) y dyddiad dyfarnu;
(dd) y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e) y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
(5) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—“
(d) y dyddiad dyfarnu;
(dd) y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e) y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
Diwygio Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013
15 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013 yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—“
 ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—
(a) sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(b) sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;”.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013
16 
Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013 yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013
17 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014
18 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
Diwygio Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015
19 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015 yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—“
(ii) is funded by a local authority, or
(iii) leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015
20 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015—
(a) ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a
(b) ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—“; and
(20) Qualifications Wales.”
Dirymu darpariaeth arbed mewn cysylltiad â chymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015
21 
Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015 wedi ei dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2016