
2016 Rhif 223 (Cy. 87)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016
Gwnaed 23 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Chwefror 2016
Yn dod i rym 28 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 37(7)(a), 37(7)(c), 38(2)(b), 38(3) a 40(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2016.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 ac mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o’r Ddeddf honno; a
(b) ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Y cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015
2 
Y cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 yw blwyddyn.
Y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu’n ôl hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015
3 

(1) Caiff CCAUC dynnu’n ôl hysbysiad a roddir o dan adran 37 drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i gorff llywodraethu’r sefydliad.
(2) Rhaid i hysbysiad tynnu’n ôl o dan baragraff (1)—
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) bod wedi ei ddyddio; ac
(c) hysbysu corff llywodraethu’r sefydliad am y rhesymau dros dynnu’n ôl yr hysbysiad o dan adran 37.
(3) Y dyddiad y caiff hysbysiad o dan adran 37 ei dynnu’n ôl yw dyddiad yr hysbysiad tynnu’n ôl.
4 
Os yw CCAUC wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o dan reoliad 3, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i Weinidogion Cymru ar unwaith.
Y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015
5 
Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38—
(a) adrannau 42 i 44; a
(b) rheoliadau 2 i 10 o Reoliadau 2015.
6 
Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2015 i gael ei ddarllen fel pe bai—
(a) “hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015” wedi ei roi yn lle “hysbysiad neu gyfarwyddyd a bennir yn adran 41(1) o Ddeddf 2015”; a
(b) y geiriau “neu’r cyfarwyddyd” ym mharagraffau (a) i (c) wedi eu hepgor.
Cydymffurfedd gan CCAUC ag adran 40(1) o Ddeddf 2015
7 
Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—
(a) rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru ar unwaith; a
(b) cyhoeddi copi o’r hysbysiad ar ei wefan o fewn y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i gorff llywodraethu’r sefydliad.
8 
At ddibenion rheoliad 7—
(a) mae hysbysiad o dan adran 37 neu 39 i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 2015; a
(b) mae hysbysiad o dan adran 38 i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir, gydag addasiadau, gan reoliadau 5(b) a 6 o’r Rheoliadau hyn.
9 
Mae copi o hysbysiad o dan adran 37 a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan reoliad 7(b) i aros ar y wefan honno tan y cynharaf o—
(a) diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 37(2); neu
(b) dyddiad yr hysbysiad tynnu’n ôl a roddir gan CCAUC o dan reoliad 3 i gorff llywodraethu’r sefydliad mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw.
10 
Mae copi o hysbysiad o dan adran 38 neu 39 a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan reoliad 7(b) i aros ar y wefan honno tan y dyddiad y byddai’r cyfnod yr oedd y cynllun ffioedd a mynediad perthnasol yn ymwneud ag ef wedi dod i ben oni bai am yr hysbysiad.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2016