
2016 Rhif 173 (Cy. 74)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016
Gwnaed 9 Chwefror 2016
Yn dod i rym 16 Chwefror 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 84A(11)(a) o Ddeddf Tai 1985.

Yn unol ag adran 84A(13)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 16 Chwefror 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Deddf Tai 1985
2 

(1) Mae Deddf Tai 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol) ar ôl paragraff 29 mewnosoder—“
Modern slavery
29A 
An offence under either of the following sections of the Modern Slavery Act 2015—
(a) section 1 (slavery, servitude and forced or compulsory labour),
(b) section 2 (human trafficking).”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2016