
2016 Rhif 142 (Cy. 67)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Codau Gwasanaethau Cymdeithasol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2016
Gwnaed 8 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Codau Gwasanaethau Cymdeithasol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r codau a bennir yn yr Atodlen ddod i rym yw 6 Ebrill 2016.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2016
YR ATODLEN
Y codau a ddyroddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2016
Erthygl 2


Enw’r Cod Y dyddiad y gosodwyd copi o’r cod drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y dyddiad y dyroddwyd y cod gan Weinidogion Cymru

Y Cod Ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol
 
29 Mehefin 2015
 
5 Hydref 2015


Y Cod Ymarfer a chanllawiau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a threfniadau partneriaeth mewn perthynas â Rhan 2 (swyddogaethau cyffredinol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
3 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015


Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 3 (asesu anghenion unigolion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
2 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015


Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
3 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015


Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (diwallu anghenion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
2 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015


Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
2 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015


Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag eiriolaeth o dan Ran 10 a rhannau cysylltiedig o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
3 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015


Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 11 (amrywiol a chyffredinol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
 
3 Tachwedd 2015
 
18 Rhagfyr 2015
