
2016 Rhif 137 (Cy. 66)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 3 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 22(3) a (4) a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013.
Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013 yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“the school performance data training”), yn lle “mis Awst 2014 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion””, rhodder “mis Ionawr 2016 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion ””.
Darpariaeth arbed
3 
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2016