
2016 Rhif 135 (Cy. 65)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016
Gwnaed 3 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Medi 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 6B(1)(a) ac 13B(2) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, a chan adrannau 28(1), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005, a pharagraff 2(1) o Atodlen 6 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Medi 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”; a
(b) yn rheoliad 14, yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
4 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015
5 
Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3, yn lle paragraff (2)(f), rhodder—“
(f) yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson sydd wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 20 neu 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, y person hwnnw a Gweinidogion Cymru”; a
(b) yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—“
(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2016