
2016 Rhif 1251 (Cy. 296)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016
Gwnaed 13 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym 3 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 79(2)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 187(2)(m) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru.
Personau sydd i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol
3 
At ddibenion swyddogaethau GCC o dan adrannau 68(2), 112, 114 a 116 o’r Ddeddf yn unig, mae personau o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau ym mharagraffau (a) i (l) o adran 79(3) o’r Ddeddf i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2016