
2016 Rhif 1247 (Cy. 295)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016
Gwnaed 15 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58, 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad, yn unol ag adran 143(4) o’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 58(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r amcan o sicrhau (i’r graddau y bo hynny’n ymarferol) nad yw’r cyfanswm sy’n daladwy i Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau bilio ar ffurf ardrethi annomestig o ran y blynyddoedd ariannol sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol yn fwy na’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n debygol o fod yn daladwy heblaw am y Rheoliadau hyn.
RHAN 1 Rhagarweiniol: cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2022 (“y cyfnod perthnasol”).
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(3);
 ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;
 ystyr “rhestr leol” (“local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41 o’r Ddeddf;
 ystyr “rhwymedigaeth sylfaenol” (“BL”) (“base liability”, “BL”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 4;
 ystyr “swm tybiannol a godir” (“NCA”) (“notional chargeable amount”, “NCA”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau 6 a 7.
Hereditament diffiniedig
3 
Mae hereditament yn hereditament diffiniedig o ran diwrnod perthnasol os caiff ei ddangos ar restr leol ar—
(a) 31 Mawrth 2017,
(b) y diwrnod perthnasol, ac
(c) pob diwrnod, os oes un, sy’n dod ar ôl 31 Mawrth 2017 a chyn y diwrnod perthnasol.
RHAN 2 Rhagarweiniol: cyfrifiadau
Rhwymedigaeth sylfaenol
4 
Cyfrifir y rhwymedigaeth sylfaenol (“BL”) ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×0.486EPan—
 A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol ar 31 Mawrth 2017, ac
 E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2017 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015.
Swm tybiannol a godir
5 
Cyfrifir y swm tybiannol a godir (“NCA”) ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â rheoliadau 6 a 7.
6 

(1) Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf (rhyddhad ardrethi i fusnesau bach) yn gymwys i hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2017, cyfrifir yr NCA ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×BE
(2) Ym mhob achos arall, cyfrifir yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×B
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
 A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol ar 1 Ebrill 2017,
 B yw’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 a gyfrifir yn unol â pharagraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ac
 E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2017 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015.
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2017, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol ar 1 Ebrill 2017.
(2) O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2017”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a
(b) ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”.
RHAN 3 Achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt
8 
At ddibenion adran 58(2) o’r Ddeddf, yr achosion yw’r rhai sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 10.
Disgrifiadau rhagnodedig
9 
Hereditament diffiniedig—
(a) y mae adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys iddo ar 31 Mawrth 2017,
(b) pan fo’r NCA yn fwy na’r swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—BL+100, ac
(c) pan fo meddiannydd yr hereditament, ar y diwrnod perthnasol, yr un person â’r meddiannydd ar 31 Mawrth 2017.
Eithriadau
10 
Hereditament diffiniedig—
(a) pan fyddai, ar y diwrnod perthnasol, y swm a godir yn sero fel arall o dan adran 45A o’r Ddeddf (hereditament nad yw’n cael ei feddiannu: cyfradd sero), neu
(b) pan fo, ar y diwrnod perthnasol, ddosraniad o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf (hereditamentau a feddiennir yn rhannol) yn gymwys i’r hereditament ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.
RHAN 4 Rheolau rhagnodedig
Rheolau ar gyfer canfod y swm a godir
11 
At ddiben adran 58(3)(a) o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo (achosion sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig) i’w ganfod yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 17.
12 
Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 43 neu 45 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 17 sy’n gymwys.
13 
Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 14 i 17 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.
Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017
14 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—(NCA−BL)×0.75365
Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018
15 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—(NCA−BL)×0.5365
Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019
16 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—(NCA−BL)×0.25366
Blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac 1 Ebrill 2021
17 
Yn y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac 1 Ebrill 2021 gostyngir y swm a godir yn ôl sero.
RHAN 5 Dirymiadau
18 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999, a
(b) Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Chyllid, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2016