
2016 Rhif 1235 (Cy. 293)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016
Gwnaed 13 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym 3 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 187(2)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru.
Pennu gweithwyr gofal cymdeithasol
3 

(1) Mae’r gweithwyr gofal cymdeithasol a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi eu pennu at ddibenion adran 80(1)(b) o’r Ddeddf (y gofrestr).
(2) Y gweithwyr gofal cymdeithasol a ddisgrifir yw’r personau hynny—
(a) sy’n rheoli man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedigynddo neu ohono;
(b) sydd, yn ystod eu cyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, neu
(ii) â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf,
a ddarperir gan y darparwr hwnnw;
(c) sy’n ymgymryd ag unrhyw gwrs a gymeradwyir gan GCC o dan adran 114(1)(a) o’r Ddeddf (cymeradwyo cyrsiau etc.) er mwyn cael eu cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2016