Argraffwyd yr Offeryn Statudol Cymreig hwn yn lle’r OSC sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol Cymreig hwnnw.
2016 Rhif 1220 (Cy. 291)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 13 Rhagfyr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym 6 Ionawr 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(3)(a) a 175 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ionawr 2017.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; ac
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012.
Diwygiadau i Reoliadau 2012
3 
Yn lle rheoliad 3 (cwestiynau a ffurflen yr arolwg) o Reoliadau 2012, rhodder—“
Cwestiynau a ffurf yr arolwg
3. 
At ddibenion adran 1(3)(a) o’r Mesur, mae’r cwestiynau a’r ffurf y maent i gael eu gofyn ynddynt wedi eu dangos yn—
(a) Rhannau 1, 2 a 4 o’r Atodlen os cynhelir yr arolwg yn unol ag adran 1(3A)(b) o’r Mesur; a
(b) Rhannau 1, 3 a 4 o’r Atodlen os cynhelir yr arolwg yn unol ag adran 1(3A)(a) o’r Mesur.”
4 
Yn lle’r Atodlen i Reoliadau 2012 (Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru), rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2016
YR ATODLEN 1
Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru
Rheoliad 4
RHAN 1
RHAN 2
RHAN 3
RHAN 4