
2016 Rhif 118 (Cy. 55)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Mangreoedd etc. Difwg (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 2 Chwefror 2016
Yn dod i rym 4 Chwefror 2016
Mae Geinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1), (2), (6) a 79(3) o Ddeddf Iechyd 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, y gosodwyd drafft ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 79(4) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 3 (esemptiadau i fangreoedd di-fwg), mewnosoder y rheoliad canlynol —“
Esemptiad dros dro i garchardai
3A. 

(1) Nid yw ystafell ddynodedig a ddefnyddir fel llety mewn carchar ar gyfer personau sy’n 18 oed neu drosodd yn ddi-fwg.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ystafell ddynodedig” yw cell—
(a) a gafodd ei dynodi’n ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y carchar yn ystafell lle y caniateir ysmygu;
(b) y mae ganddi nenfwd ac sydd, heblaw am ddrysau a ffenestri, yn hollol gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd;
(c) nad oes ganddi system awyru sy’n awyru i ran arall o’r fangre (ac eithrio unrhyw ystafelloedd dynodedig eraill); a
(ch) sydd wedi ei marcio’n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.
(3) Bydd paragraffau (1) a (2) yn peidio â chael effaith ar 5 Ebrill 2017.”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2016