
2016 Rhif 1169 (Cy. 286)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 30 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2016.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2016
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 55,702
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr 113,059
Caerphilly/Caerffili 141,653
Cardiff/Caerdydd 283,659
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin 148,105
Ceredigion 62,145
Conwy 94,643
Denbighshire/Sir Ddinbych 75,198
Flintshire/Sir y Fflint 122,051
Gwynedd 99,361
Isle of Anglesey/Ynys Môn 56,501
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful 46,831
Monmouthshire/Sir Fynwy 74,719
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot 113,050
Newport/Casnewydd 114,202
Pembrokeshire/Sir Benfro 99,015
Powys 107,712
Rhondda Cynon Taf 187,694
Swansea/Abertawe 195,356
Torfaen 72,726
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg 100,652
Wrexham/Wrecsam 107,164”