
2016 Rhif 1158 (Cy. 279)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016
Gwnaed 25 Tachwedd 2016
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3) 

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adroddiad dyddiedig 31 Mawrth 2016 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a’i gynigion ar gyfer eu newid.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r saith map a farciwyd “Map Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, ac a labelwyd “A” i “G” ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y llythyren honno; apan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol
3 
Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
Aberafan – creu cymuned newydd Rhos Baglan
4 
Mae cymuned newydd Rhos Baglan wedi ei chreu ac—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Aberafan.
Baglan a Llansawel – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
5 

(1) Mae’r rhan o gymuned Baglan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llansawel; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llansawel.
(2) Mae’r rhan o gymuned Llansawel a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap B—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Baglan; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Baglan.
Cwmafan a Phort Talbot – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
6 
Mae’r rhan o gymuned Cwmafan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Port Talbot; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Port Talbot.
Port Talbot a Thai-bach – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
7 
Mae’r rhan o gymuned Port Talbot a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Tai-bach; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tai-bach.
Dwyrain Sandfields a Gweunydd Margam – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
8 
Mae’r rhan o gymuned Dwyrain Sandfields a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Gweunydd Margam; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Gweunydd Margam.
Blaendulais ac Onllwyn – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
9 
Mae’r rhan o gymuned Blaendulais a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Onllwyn; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Onllwyn.
Tai-bach a Margam – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
10 

(1) Mae’r rhan o gymuned Tai-bach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Margam; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Margam.
(2) Mae’r rhan o gymuned Margam a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap G—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Tai-bach; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tai-bach.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2016