
2016 Rhif 1155 (Cy. 277)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016
Gwnaed 28 Tachwedd  2016
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adroddiad dyddiedig 22 Chwefror 2016 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol yn Ninas a Sir Caerdydd, a’i gynigion ar gyfer eu newid.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn wedi eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r naw map a farciwyd “Map Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd yn “A” i “I” ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; apan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol
3 
Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Dinas a Sir Caerdydd yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
Cyncoed a Phentwyn - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
4 

(1) Mae’r rhan o gymuned Cyncoed a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pentwyn; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentwyn.
(2) Mae’r rhan o gymuned Pentwyn a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap A—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.
Llanisien a Chyncoed - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
5 
Mae’r rhan o gymuned Llanisien a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.
Llanisien - creu cymuned newydd y Ddraenen
6 
Mae cymuned newydd y Ddraenen wedi ei chreu ac—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanisien.
Llanrhymni a Thredelerch - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
7 
Mae’r rhan o gymuned Llanrhymni a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Tredelerch; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tredelerch.
Pentwyn a Chyncoed - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
8 
Mae’r rhan o gymuned Pentwyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.
Pentwyn a Chyncoed - creu cymuned newydd Llanedern
9 
Mae cymuned newydd Llanedern wedi ei chreu ac—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentwyn.
Glanyrafon - creu cymuned newydd Pontcanna
10 
Mae cymuned newydd Pontcanna wedi ei chreu ac—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Glanyrafon.
Y Sblot - creu cymuned newydd Tremorfa
11 
Mae cymuned newydd Tremorfa wedi ei chreu ac—
(a) yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Sblot.
Trowbridge a Thredelerch - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol
12 
Mae’r rhan o gymuned Trowbridge a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Tredelerch; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tredelerch.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
28 Tachwedd 2016