
2016 Rhif 1136 (Cy. 274)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016
Gwnaed 22 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Tachwedd 2016
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972fel y’u cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno, ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2016 ond mae erthygl 2(2) yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992
2 

(1) Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol G2 (cyfraniadau pensiwn)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “A regular firefighter shall” rhodder “Subject to paragraph (1B), a regular firefighter shall”; a
(b) cyn paragraff (2) mewnosoder—“
(1B) Paragraph (1) does not apply to a firefighter below the age of 50 who has reckoned 30 years or more pensionable service.”
(3) Yn rheol LA1(3) (sefydlu, cynnal a gweithredu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân, etc.)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; and”; a
(b) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) sums payable under article 3 of the Firefighters’ Pension (Wales) Scheme (Amendment and Transitional Provisions) Order 2016.”
Darpariaeth drosiannol
3 

(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub dalu’r swm gofynnol fel y’i disgrifir ym mharagraff (3) i ddiffoddwr tân sy’n dod o fewn paragraff (2).
(2) Mae diffoddwr tân yn dod o fewn y paragraff hwn os talodd y diffoddwr tân gyfraniadau pensiwn yn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2006 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2016 yn unol â rheol G2(1) o Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) nad oeddynt yn daladwy o ganlyniad i erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn.
(3) Y swm gofynnol yw cyfandaliad sy’n hafal i (A+B)×C, pan—
 A yw cyfanswm pob cyfraniad a dalwyd net unrhyw dreth a fyddai’n daladwy gan y diffoddwr tân pe na bai’r cyfraniad wedi ei dalu;
 B yw’r llog ar A a gyfrifir yn unol â pharagraff (4); ac
 C yw 100/60.
(4) O ran llog—
(a) rhaid ei gyfrifo ar wahân mewn perthynas â phob cyfraniad a delir; a
(b) rhaid ei gymhwyso’n adlog ar sail y gyfradd log flaenorol o ddydd i ddydd ar gyfer y cyfnod a bennir ym mharagraff (5).
(5) Mae’r cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (4)(b) yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis y talwyd pob cyfraniad ynddo ac mae’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y telir y cyfanswm gofynnol ynddo.
(6) Pan fo taliad yn ofynnol o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â diffoddwr tân a fu farw cyn 31 Rhagfyr 2016 neu sy’n marw ar y dyddiad hwnnw neu wedyn ond cyn i’r taliad gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod tân ac achub dalu’r swm dyledus i gynrychiolwyr personol y diffoddwr tân.
(7) At ddibenion yr erthygl hon—
 mae i “awdurdod tân ac achub” yr un ystyr a roddir i “fire and rescue authority” yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;
 “cyfradd log flaenorol” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr a oedd yn gymwys ar bob diwrnod o’r cyfnod a bennir ym mharagraff (5); ac
 ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) yw—
(a) y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu
(b) pan fo gorchymyn mewn grym o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 1998, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2016