
2016 Rhif 1111 (Cy. 268)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Rhestr o Bersonau sydd wedi eu Tynnu oddi ar y Gofrestr) 2016
Gwnaed 15 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Tachwedd 2016
Yn dod i rym 3 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 110(6) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Rhestr o Bersonau sydd wedi eu Tynnu oddi ar y Gofrestr) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cynnwys y rhestr
3 
Rhaid i gofnod ar y rhestr o bersonau sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr y mae rhaid i GCC ei chadw o dan adran 110(1) o’r Ddeddf ddangos mewn cysylltiad â phob person—
(a) enw’r person,
(b) y dyddiad y cafodd y person ei dynnu oddi ar y gofrestr, ac
(c) pa un neu ba rai o’r amgylchiadau yn adran 110(2) neu (4) o’r Ddeddf a berodd i’w gofnod yn y gofrestr gael ei ddileu.
Cyhoeddi
4 

(1) Rhaid i GCC gyhoeddi ar ei wefan restr gyfredol o’r personau sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr, y mae rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau (a) i (c) o reoliad 3.
(2) Rhaid i GCC gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol a wneir gan berson i gael copi o’r rhestr neu wybodaeth benodedig o’r rhestr.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2016