
2016 Rhif 1100 (Cy. 264)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016
Gwnaed 15 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Tachwedd 2016
Yn dod i rym 3 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 175(1) a (2) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 105 o Ddeddf Plant 1989;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 mae i “euogfarn gryno” yr ystyr a roddir i “extract conviction” yn adran 307 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995;
 mae i “paneli addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(b) o’r Ddeddf;
 mae i “paneli apelau cofrestru” (“registration appeals panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(a) o’r Ddeddf;
 mae i “paneli gorchmynion interim” (“interim orders panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(c) o’r Ddeddf.
RHAN 2 Paneli Apelau Cofrestru
Dehongli Rhan 2
3 
Yn y Rhan hon—
 ystyr “achos” (“case”) yw achos sy’n ymwneud ag apêl gofrestru gerbron panel apelau cofrestru;
 ystyr “achos addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise proceedings”) yw achos gerbron panel addasrwydd i ymarfer y mae Pennod 3 neu Bennod 5 o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;
 ystyr “achos apelau cofrestru” (“registration appeals proceedings”) yw achos gerbron panel apelau cofrestru y mae adran 98(1), 99(2) neu 103 o’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;
 ystyr “apêl gofrestru” (“registration appeal”) yw—
(a) apêl a wneir yn unol ag adran 101 o’r Ddeddf yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd;
(b) cais a wneir yn unol ag adran 97(5) o’r Ddeddf i adolygu cyfarwyddyd o dan adran 98(4) o’r Ddeddf;
(c) cais a wneir yn unol ag adran 97(2) o’r Ddeddf i adfer cofnod person i ran o’r gofrestr yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer;
 ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy’n dwyn apêl gofrestru;
 ystyr “gwrandawiad apelau cofrestru” (“registration appeals hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel apelau cofrestru mewn achos apelau cofrestru;
 ystyr “partïon” (“parties”) yw’r apelydd a GCC (neu eu cynrychiolwyr).
Amcanion cyffredinol paneli apelau cofrestru
4 

(1) Amcanion cyffredinol panel apelau cofrestru wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achosion apelau cofrestru yw—
(a) diogelu, hybu a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd;
(b) hybu a chynnal—
(i) hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol, a
(ii) safon uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; ac
(c) ymdrin â’r achos yn deg ac yn gyfiawn.
(2) Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—
(a) ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos, cymhlethdod y materion, y costau disgwyliedig ac adnoddau’r partïon;
(b) osgoi ffurfioldeb diangen a cheisio sicrhau hyblygrwydd yn yr achosion;
(c) sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, fod y partïon yn gallu cymryd rhan lawn yn yr achosion;
(d) defnyddio unrhyw arbenigedd arbennig y panel neu GCC yn effeithiol;
(e) osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.
Dyletswydd y partïon mewn achosion apelau cofrestru
5 

(1) Dyletswydd y partïon yw—
(a) cydweithredu â’r panel apelau cofrestru, a
(b) ei helpu i gyflawni ei amcan o dan reoliad 4(1)(c).
(2) Os yw’r panel apelau cofrestru wedi ei fodloni bod person wedi torri’r ddyletswydd ym mharagraff (1), caiff ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
Achosion apelau cofrestru: pan nad oes angen gwrandawiad
6 

(1) Caniateir dyfarnu ar apêl gofrestru sydd gerbron panel apelau cofrestru heb wrandawiad—
(a) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achos heb wrandawiad, a
(b) os yw’r panel apelau cofrestru yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.
(2) Pan ddyfernir ar achos yn unol â pharagraff (1) heb wrandawiad—
(a) caiff cadeirydd y panel wneud penderfyniad terfynol y panel apelau cofrestru;
(b) ar unrhyw adeg yn ystod yr achos caiff y panel apelau cofrestru neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad apelau cofrestru gael ei gynnal.
(3) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel apelau cofrestru eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel apelau cofrestru eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad.
Rheoli achos mewn achosion apelau cofrestru
7 

(1) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rheoli achos rhagarweiniol mewn perthynas ag achosion apelau cofrestru.
(2) Caiff y rheolau wneud darpariaeth yn benodol—
(a) mai panel apelau cofrestru neu berson a benodir o dan y rheolau sy’n gwneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol;
(b) ynghylch cymwysterau ar gyfer penodiad o’r fath;
(c) ynghylch adolygiadau achos;
(d) ynghylch cyfarwyddydau y caniateir iddynt gael eu rhoi;
(e) ynghylch cofnodion cyfarwyddydau;
(f) ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddydau (a gaiff gynnwys pŵer panel apelau cofrestru i ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol).
(3) Pan fo’r rheolau yn darparu i berson ac eithrio’r panel apelau cofrestru wneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol, rhaid iddynt ddarparu i’r person hwnnw—
(a) gweithredu’n annibynnol ar y partïon, a
(b) arfer unrhyw bŵer i roi cyfarwyddydau at ddiben sicrhau bod yr apêl yn cael ei chynnal yn gyfiawn, yn ddiymdroi ac yn effeithiol yn unig.
(4) Mae amcan cyffredinol panel apelau cofrestru o dan reoliad 4(1)(c) (i ymdrin ag achosion yn deg ac yn gyfiawn) hefyd yn gymwys i berson o’r fath.
(5) Ni chaiff rheolau a wneir o dan y rheoliad hwn ddarparu ar gyfer dyfarnu costau.
Tystiolaeth mewn achosion apelau cofrestru
8 

(1) Rhaid i banel apelau cofrestru wneud canfyddiad ffeithiol yn unol â phwysau tebygolrwydd.
(2) Nid yw tystiolaeth yn dderbyniol mewn achosion apelau cofrestru oni bai—
(a) y byddai’n dderbyniol mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr, neu
(b) bod y panel apelau cofrestru yn ystyried bod y dystiolaeth yn berthnasol, a’i bod yn deg derbyn y dystiolaeth honno.
(3) Mae tystysgrif sydd wedi ei llofnodi gan swyddog cymwys mewn llys o unrhyw awdurdodaeth bod person wedi ei euogfarnu o drosedd neu, yn yr Alban, euogfarn gryno, yn dystiolaeth bendant o’r drosedd.
(4) Mae tystysgrif bod person wedi ei gynnwys ar restr wahardd (at ddibenion adran 117(1)(c) o’r Ddeddf), a ddyroddir gan y person sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr, yn dystiolaeth bendant o’r ffaith honno.
(5) Mae tystysgrif a ddyroddir gan gorff perthnasol (at ddibenion adran 117(1)(d) o’r Ddeddf) ei fod wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer yn dystiolaeth bendant o’r dyfarniad hwnnw.
Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau apelau cofrestru
9 

(1) Rhaid cynnal gwrandawiad gerbron panel apelau cofrestru yn gyhoeddus, gyda’r eithriadau a ganlyn.
(2) Rhaid i’r panel apelau cofrestru eithrio’r cyhoedd o unrhyw ran o wrandawiad sy’n ymwneud ag ystyried iechyd corfforol neu iechyd meddwl yr apelydd, oni bai—
(a) bod yr apelydd yn gofyn i ran o’r gwrandawiad gael ei chynnal yn gyhoeddus, a
(b) bod y panel apelau cofrestru yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.
(3) Caiff y panel apelau cofrestru eithrio’r cyhoedd o’r gwrandawiad cyfan neu o ran ohono os yw’n ystyried bod amgylchiadau’r achos yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus.
(4) Caiff y panel apelau cofrestru eithrio person o wrandawiad os yw’n ystyried bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.
Achosion apelau cofrestru: gwysion tystion
10 

(1) At ddibenion achosion apelau cofrestru—
(a) caiff panel apelau cofrestru weinyddu llwon,
(b) caiff GCC ohono ei hun ddyroddi gwŷs tyst sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad i ddarparu gwybodaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfen, a chaiff unrhyw barti arall ofyn i GCC ddyroddi gwŷs o’r fath.
(2) Nid yw unrhyw berson i gael ei orfodi gan wŷs a ddyroddir o dan baragraff (1)(b) i gyflwyno unrhyw ddogfen na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w chyflwyno mewn achos sifil yng Nghymru a Lloegr.
Mesurau arbennig ar gyfer tystion etc. mewn gwrandawiadau apelau cofrestru
11 

(1) Mae hawlogaeth gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad apelau cofrestru, gan gynnwys yr apelydd, i gael mesurau arbennig—
(a) os yw’r person o dan 18 oed, neu
(b) os yw’r panel apelau cofrestru yn ystyried bod y dystiolaeth a roddir gan y person yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd—
(i) anabledd corfforol, anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, salwch neu gyflwr iechyd neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu ar alcohol, neu
(ii) ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth.
(2) Wrth benderfynu a yw tystiolaeth a roddir gan berson yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd mater a bennir ym mharagraff (1)(b), rhaid i’r panel apelau cofrestru ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.
(3) Caiff panel apelau cofrestru gynnig mesurau arbennig i berson nad oes hawlogaeth ganddo i’w cael o dan baragraff (1) os yw’n meddwl y byddai gwneud hynny er budd y cyhoedd.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “special measures” (“mesurau arbennig”) yw unrhyw fesurau arbennig y mae’r panel apelau cofrestru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben gwella ansawdd y dystiolaeth a roddir gan berson yn y gwrandawiad.
(5) Wrth ystyried pa fesur arbennig yn benodol a all fod yn briodol, rhaid i’r panel apelau cofrestru ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.
(6) Caiff person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’r galluedd i wneud hynny wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.
(7) Dyfernir a oes gan berson alluedd at ddibenion paragraff (6) yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
(8) Dim ond os yw’r panel apelau cofrestru wedi ei fodloni nad yw tystiolaeth y plentyn yn debygol o fod o ansawdd llai o ganlyniad i absenoldeb y mesur neu’r mesurau arbennig y mae’r plentyn yn dymuno eu gwrthod y caiff person sydd o dan 18 oed (“plentyn”) (“child”) wrthod derbyn mesurau arbennig.
(9) Wrth gyrraedd safbwynt fel sy’n ofynnol gan baragraff (8), rhaid i’r panel apelau cofrestru ystyried—
(a) oedran ac aeddfedrwydd y plentyn,
(b) gallu’r plentyn i ddeall canlyniadau rhoi tystiolaeth heb y mesur neu’r mesurau arbennig,
(c) lles pennaf y plentyn,
(d) safbwyntiau rhieni’r plentyn neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(e) y berthynas (os oes perthynas) rhwng y plentyn ac unrhyw barti yn yr achos,
(f) natur ac amgylchiadau honedig y mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef, ac
(g) unrhyw ffactor arall y mae’r panel yn meddwl ei fod yn berthnasol.
(10) Rhaid i banel apelau cofrestru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fesur arbennig y mae wedi ei gynnig gael ei weithredu neu ei ddarparu, ac eithrio pan fo gan y person o dan sylw hawlogaeth i wrthod y mesur arbennig a’i fod wedi gwneud hynny.
Gwrandawiadau apelau cofrestru: y weithdrefn
12 

(1) Mae hawlogaeth gan apelydd i gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad apelau cofrestru gan—
(a) cyfreithiwr neu gwnsler,
(b) cynrychiolydd o unrhyw sefydliad proffesiynol, neu
(c) os yw’r panel apelau cofrestru yn cytuno, unrhyw berson arall.
(2) Mae hawlogaeth gan y partïon i roi tystiolaeth.
(3) Ni chaiff person sy’n cynrychioli neu’n cynghori’r apelydd roi tystiolaeth.
(4) Caniateir bwrw ymlaen â gwrandawiad apelau cofrestru hyd yn oed os nad yw’r apelydd yn bresennol ac os nad yw wedi ei gynrychioli, os yw’r panel apelau cofrestru wedi ei fodloni bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i roi hysbysiad o’r gwrandawiad i’r apelydd.
Rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru
13 

(1) Rhaid i GCC wneud rheolau ynghylch y weithdrefn sydd i gael ei dilyn mewn gwrandawiad apelau cofrestru (“rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru”) (“registration appeals hearings rules”).
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a) cânt roi canllawiau i GCC ynghylch cynnwys rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru, gan gynnwys canllawiau ar ffurf rheolau enghreifftiol, a
(b) rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan is-baragraff (a).
(3) Rhaid i GCC, wrth wneud rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(a).
(4) Pan fo canllawiau wedi eu rhoi ar ffurf rheolau enghreifftiol rhaid i GCC, ar ôl gwneud unrhyw reolau gwrandawiadau apelau cofrestru, gyhoeddi dogfen sy’n esbonio unrhyw wyriadau sylweddol oddi ar y rheolau enghreifftiol neu unrhyw ychwanegiadau sylweddol atynt.
(5) Mae pŵer GCC i wneud rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.
RHAN 3 Paneli Addasrwydd i Ymarfer
Dehongli Rhan 3
14 
Yn y Rhan hon—
 ystyr “achos” (“case”) yw achos sy’n ymwneud ag achos addasrwydd i ymarfer neu achos gorchmynion interim (yn ôl y digwydd) gerbron panel addasrwydd i ymarfer;
 ystyr “achos addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise proceedings”) yw achos gerbron panel addasrwydd i ymarfer y mae Pennod 3 neu Bennod 5 o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;
 ystyr “achos gorchmynion interim” (“interim orders proceedings”) yw achos gerbron panel addasrwydd i ymarfer y mae Pennod 4 o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;
 ystyr “gwrandawiad addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel addasrwydd i ymarfer mewn achos addasrwydd i ymarfer;
 ystyr “gwrandawiad gorchmynion interim” (“interim orders hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel addasrwydd i ymarfer mewn achos gorchmynion interim;
 ystyr “partïon” (“parties”) yw’r person cofrestredig y mae’r achos addasrwydd i ymarfer neu’r achos gorchmynion interim yn ymwneud ag ef a GCC (neu eu cynrychiolwyr);
 ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw’r person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
Amcanion cyffredinol paneli addasrwydd i ymarfer
15 

(1) Amcanion cyffredinol panel addasrwydd i ymarfer wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim yw—
(a) diogelu, hybu a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd;
(b) hybu a chynnal—
(i) hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol, a
(ii) safon uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; ac
(c) ymdrin â’r achos yn deg ac yn gyfiawn.
(2) Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—
(a) ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos, cymhlethdod y materion, y costau disgwyliedig ac adnoddau’r partïon;
(b) osgoi ffurfioldeb diangen a cheisio sicrhau hyblygrwydd yn yr achosion;
(c) sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, fod y partïon yn gallu cymryd rhan lawn yn yr achosion;
(d) defnyddio unrhyw arbenigedd arbennig y panel neu GCC yn effeithiol;
(e) osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.
Dyletswydd y partïon mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac mewn achosion gorchmynion interim
16 

(1) Dyletswydd y partïon yw—
(a) cydweithredu â’r panel addasrwydd i ymarfer, a
(b) ei helpu i gyflawni ei amcan o dan reoliad 15(1)(c).
(2) Os yw’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei fodloni bod person wedi torri’r ddyletswydd ym mharagraff (1), caiff ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
Achosion addasrwydd i ymarfer: pan nad oes angen gwrandawiad
17 

(1) Caiff panel addasrwydd i ymarfer ddyfarnu ar achosion addasrwydd i ymarfer, ac eithrio achosion o dan adran 151 o’r Ddeddf (“achosion adolygu”) heb wrandawiad—
(a) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achosion heb wrandawiad,
(b) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r penderfyniad terfynol sydd i gael ei wneud gan y panel (gan gynnwys manylion am y penderfyniad hwnnw megis y cyfnod y mae gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer neu unrhyw amodau sydd i gael eu gosod ar gofrestriad y person cofrestredig),
(c) os gwneir datganiad ysgrifenedig o ffeithiau y cytunwyd arnynt gan—
(i) GCC,
(ii) y person cofrestredig, a
(iii) y panel, a
(d) os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.
(2) Caiff panel addasrwydd i ymarfer ddyfarnu ar achosion adolygu o dan adran 151 o’r Ddeddf heb wrandawiad—
(a) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar achosion heb wrandawiad,
(b) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r penderfyniad terfynol sydd i gael ei wneud gan y panel, y mae rhaid iddo fod yn un a bennir ym mharagraff (3), ac
(c) os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.
(3) Y penderfyniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw—
(a) yn achos adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig sydd wedi cytuno ar ymgymeriadau, penderfyniad gan y panel addasrwydd i ymarfer i gytuno â’r person fod yr ymgymeriadau yn parhau i gael effaith heb unrhyw amrywiadau,
(b) yn achos adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol, penderfyniad gan y panel i gadarnhau’r gorchymyn cofrestru amodol heb unrhyw amrywiadau,
(c) yn achos adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro, penderfyniad gan y panel i gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro heb unrhyw amrywiadau.
(4) Pan ddyfernir ar achosion heb wrandawiad yn unol â pharagraff (1) neu (2)—
(a) caiff cadeirydd y panel wneud penderfyniad terfynol y panel;
(b) ar unrhyw adeg yn ystod yr achosion caiff y panel neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal.
(5) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad addasrwydd i ymarfer.
Achosion gorchmynion interim: pan nad oes angen gwrandawiad
18 

(1) Caiff panel addasrwydd i ymarfer ddyfarnu ar achosion gorchmynion interim heb wrandawiad—
(a) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achosion heb wrandawiad,
(b) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r gorchymyn interim sydd i gael ei wneud gan y panel, neu (mewn achos pan fo’r panel yn ystyried adolygiad o orchymyn interim) i’r penderfyniad a bennir yn adran 147(1)(b) i (e) o’r Ddeddf sydd i gael ei wneud gan y panel, gan gynnwys—
(i) y cyfnod y mae’r gorchymyn interim i gael effaith ar ei gyfer, a
(ii) yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, yr amodau sydd i gael eu gosod ar gofrestriad y person cofrestredig â GCC,
(c) os gwneir datganiad ysgrifenedig o ffeithiau y cytunwyd arnynt gan—
(i) GCC,
(ii) y person cofrestredig, a
(iii) y panel, a
(d) os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.
(2) Pan ddyfernir ar achosion heb wrandawiad yn unol â pharagraff (1)—
(a) caiff cadeirydd y panel wneud neu gadarnhau gorchymyn interim;
(b) ar unrhyw adeg yn ystod yr achosion caiff y panel neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal.
(3) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad gorchmynion interim.
Rheoli achos mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac mewn achosion gorchmynion interim
19 

(1) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rheoli achos rhagarweiniol mewn perthynas ag achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim.
(2) Caiff y rheolau wneud darpariaeth yn benodol—
(a) mai panel addasrwydd i ymarfer neu berson a benodir o dan y rheolau sy’n gwneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol;
(b) ynghylch cymwysterau ar gyfer penodiad o’r fath;
(c) ynghylch adolygiadau achos;
(d) ynghylch cyfarwyddydau y caniateir iddynt gael eu rhoi;
(e) ynghylch cofnodion cyfarwyddydau;
(f) ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddydau (a gaiff gynnwys pŵer panel addasrwydd i ymarfer i ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol).
(3) Pan fo’r rheolau yn darparu i berson ac eithrio’r panel addasrwydd i ymarfer wneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol, rhaid iddynt ddarparu i’r person hwnnw—
(a) gweithredu’n annibynnol ar y partïon, a
(b) arfer unrhyw bŵer i roi cyfarwyddydau at ddiben sicrhau bod yr apêl yn cael ei chynnal yn gyfiawn, yn ddiymdroi ac yn effeithiol yn unig.
(4) Mae amcan cyffredinol panel addasrwydd i ymarfer o dan reoliad 15(1)(c) (i ymdrin ag achosion yn deg ac yn gyfiawn) hefyd yn gymwys i berson o’r fath.
(5) Ni chaiff rheolau a wneir o dan y rheoliad hwn ddarparu ar gyfer dyfarnu costau.
Tystiolaeth mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac mewn achosion gorchmynion interim
20 

(1) Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer mewn achosion addasrwydd i ymarfer wneud canfyddiad ffeithiol yn unol â phwysau tebygolrwydd.
(2) Nid yw tystiolaeth yn dderbyniol mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim oni bai—
(a) y byddai’n dderbyniol mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr, neu
(b) bod y panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried bod y dystiolaeth yn berthnasol, a’i bod yn deg derbyn y dystiolaeth honno.
(3) Mae tystysgrif sydd wedi ei llofnodi gan swyddog cymwys mewn llys o unrhyw awdurdodaeth bod person wedi ei euogfarnu o drosedd neu, yn yr Alban, euogfarn gryno, yn dystiolaeth bendant o’r drosedd.
(4) Mae tystysgrif bod person wedi ei gynnwys ar restr wahardd (at ddibenion adran 117(1)(c) o’r Ddeddf), a ddyroddir gan y person sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr, yn dystiolaeth bendant o’r ffaith honno.
(5) Mae tystysgrif a ddyroddir gan gorff perthnasol (at ddibenion adran 117(1)(d) o’r Ddeddf) ei fod wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer yn dystiolaeth bendant o’r dyfarniad hwnnw.
Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau addasrwydd i ymarfer
21 

(1) Rhaid cynnal gwrandawiad addasrwydd i ymarfer yn gyhoeddus, gyda’r eithriadau a ganlyn.
(2) Rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer eithrio’r cyhoedd o unrhyw ran o wrandawiad sy’n ymwneud ag ystyried iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig, oni bai—
(a) bod y person cofrestredig yn gofyn i ran o’r gwrandawiad gael ei chynnal yn gyhoeddus, a
(b) bod y panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.
(3) Caiff y panel addasrwydd i ymarfer eithrio’r cyhoedd o’r gwrandawiad cyfan neu o ran ohono os yw’n ystyried bod amgylchiadau’r achos yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus.
(4) Caiff y panel addasrwydd i ymarfer eithrio person o wrandawiad os yw’n ystyried bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.
Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau gorchmynion interim
22 

(1) Rhaid eithrio’r cyhoedd o wrandawiad gorchmynion interim oni bai—
(a) bod y person cofrestredig yn gofyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus, a
(b) bod y panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.
(2) Pan gynhelir gwrandawiad yn gyhoeddus, caiff y panel addasrwydd i ymarfer eithrio person o’r gwrandawiad os yw’n meddwl bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.
Achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim: gwysion tystion
23 

(1) At ddibenion achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim—
(a) caiff panel addasrwydd i ymarfer weinyddu llwon,
(b) caiff GCC ohono ei hun ddyroddi gwŷs tyst sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad i ddarparu gwybodaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfen, a chaiff unrhyw barti arall ofyn i GCC ddyroddi gwŷs o’r fath.
(2) Nid yw unrhyw berson i gael ei orfodi gan wŷs a ddyroddir o dan baragraff (1)(b) i gyflwyno unrhyw ddogfen na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w chyflwyno mewn achos sifil yng Nghymru a Lloegr.
Mesurau arbennig ar gyfer tystion etc. mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer ac mewn gwrandawiadau gorchmynion interim
24 

(1) Mae hawlogaeth gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu wrandawiad gorchmynion interim, gan gynnwys y person cofrestredig, i gael mesurau arbennig—
(a) os yw’r person o dan 18 oed, neu
(b) os yw’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried bod y dystiolaeth a roddir gan y person yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd—
(i) anabledd corfforol, anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, salwch neu gyflwr iechyd neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu ar alcohol, neu
(ii) ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth.
(2) Mae gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu mewn gwrandawiad gorchmynion interim hawlogaeth i gael mesurau arbennig hefyd os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol a bod y person yn ddioddefwr honedig.
(3) Wrth benderfynu a yw tystiolaeth a roddir gan berson yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd mater a bennir ym mharagraff (1)(b), rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.
(4) Caiff panel addasrwydd i ymarfer gynnig mesurau arbennig i berson nad oes hawlogaeth ganddo i’w cael o dan baragraff (1) neu (2), os yw’n meddwl bod gwneud hynny er budd y cyhoedd.
(5) Ystyr “special measures” (“mesurau arbennig”) yw unrhyw fesurau arbennig y mae’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben gwella ansawdd y dystiolaeth a roddir gan berson yn y gwrandawiad.
(6) Wrth ystyried pa fesurau arbennig yn benodol a all fod yn briodol, rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.
(7) Caiff person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’r galluedd i wneud hynny wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.
(8) Dyfernir a oes gan berson alluedd at ddibenion paragraff (7) yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
(9) Dim ond os yw’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei fodloni nad yw tystiolaeth y plentyn yn debygol o fod o ansawdd llai o ganlyniad i absenoldeb y mesur neu’r mesurau arbennig y mae’r plentyn yn dymuno eu gwrthod y caiff person sydd o dan 18 oed (“plentyn”) (“child”) wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.
(10) Wrth gyrraedd safbwynt fel sy’n ofynnol gan baragraff (9), rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer ystyried—
(a) oedran ac aeddfedrwydd y plentyn,
(b) gallu’r plentyn i ddeall canlyniadau rhoi tystiolaeth heb y mesur neu’r mesurau arbennig,
(c) lles pennaf y plentyn,
(d) safbwyntiau rhieni’r plentyn neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(e) y berthynas (os oes perthynas) rhwng y plentyn ac unrhyw barti yn yr achos,
(f) natur ac amgylchiadau honedig y mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef, ac
(g) unrhyw ffactor arall y mae’r panel yn meddwl ei fod yn berthnasol.
(11) Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fesur arbennig y mae wedi ei gynnig gael ei weithredu neu ei ddarparu, ac eithrio pan fo gan y person o dan sylw hawlogaeth i wrthod y mesur arbennig a’i fod wedi gwneud hynny.
(12) Os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol, ni chaiff y person cofrestredig groesholi dioddefwr honedig yn bersonol, oni bai—
(a) bod y dioddefwr honedig wedi cydsynio i hyn, a
(b) nad yw’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried bod ffeithiau honedig y mater yn gyfystyr â, neu’n debygol o fod yn gyfystyr â, throsedd rywiol o dan adran 62 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999.
(13) Os yw paragraff (12) yn golygu nad oes caniatâd gan y person cofrestredig i groesholi person yn bersonol, rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer roi cyfle digonol i’r person cofrestredig i benodi cynrychiolydd i wneud hynny.
(14) Os nad yw’r person cofrestredig yn penodi cynrychiolydd o dan baragraff (13), ond ei fod yn dymuno bod dioddefwr honedig yn cael ei groesholi, rhaid i GCC benodi cynrychiolydd i groesholi’r person ar ran y person cofrestredig.
Gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer a gwrandawiadau gorchmynion interim: y weithdrefn
25 

(1) Mae hawlogaeth gan berson cofrestredig i gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu wrandawiad gorchmynion interim gan—
(a) cyfreithiwr neu gwnsler,
(b) cynrychiolydd o unrhyw sefydliad proffesiynol, neu
(c) os yw’r panel addasrwydd i ymarfer yn cytuno, unrhyw berson arall.
(2) Mae hawlogaeth gan y partïon i roi tystiolaeth.
(3) Ni chaiff person sy’n cynrychioli neu’n cynghori’r person cofrestredig roi tystiolaeth.
(4) Caniateir bwrw ymlaen â gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu wrandawiad gorchmynion interim hyd yn oed os nad yw’r person cofrestredig yn bresennol ac os nad yw wedi ei gynrychioli, os yw’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei fodloni bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i roi hysbysiad o’r gwrandawiad i’r person.
Rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer a gwrandawiadau gorchmynion interim
26 

(1) Rhaid i GCC wneud rheolau ynghylch y weithdrefn sydd i gael ei dilyn mewn—
(a) gwrandawiad addasrwydd i ymarfer (“rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer”) (“fitness to practise hearings rules”), a
(b) gwrandawiad gorchmynion interim (“addasrwydd i ymarfer: rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim”) (“fitness to practise: interim orders hearings rules”).
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a) cânt roi canllawiau (gan gynnwys canllawiau ar ffurf rheolau enghreifftiol) i GCC ynghylch cynnwys—
(i) rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer, a
(ii) addasrwydd i ymarfer: rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim, a
(b) rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan is-baragraff (a).
(3) Rhaid i GCC, wrth wneud unrhyw reolau yn unol â pharagraff (1), roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(a).
(4) Pan fo canllawiau wedi eu rhoi ar ffurf rheolau enghreifftiol rhaid i GCC, ar ôl gwneud unrhyw reolau yn unol â pharagraff (1), gyhoeddi dogfen sy’n esbonio unrhyw wyriadau sylweddol oddi ar y rheolau enghreifftiol neu unrhyw ychwanegiadau atynt.
(5) Mae pŵer GCC i wneud rheolau o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.
RHAN 4 Paneli gorchmynion interim
Dehongli Rhan 4
27 
Yn y Rhan hon—
 ystyr “achos” (“case”) yw achos sy’n ymwneud ag achos interim gerbron panel gorchmynion interim;
 ystyr “achos gorchmynion interim” (“interim orders proceedings”) yw achos gerbron panel gorchmynion interim y mae Pennod 4 o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;
 ystyr “gwrandawiad gorchmynion interim” (“interim orders hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel gorchmynion interim mewn achos gorchmynion interim;
 ystyr “partïon” (“parties”) yw’r person cofrestredig y mae achos gorchmynion interim yn ymwneud ag ef a GCC (neu eu cynrychiolwyr);
 ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw’r person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel gorchmynion interim wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
Amcanion cyffredinol paneli gorchmynion interim
28 

(1) Amcanion cyffredinol panel gorchmynion interim wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achosion gorchmynion interim yw—
(a) diogelu, hybu a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd;
(b) hybu a chynnal—
(i) hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol, a
(ii) safon uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; ac
(c) ymdrin â’r achos yn deg ac yn gyfiawn.
(2) Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—
(a) ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos, cymhlethdod y materion, y costau disgwyliedig ac adnoddau’r partïon;
(b) osgoi ffurfioldeb diangen a cheisio sicrhau hyblygrwydd yn yr achosion;
(c) sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, fod y partïon yn gallu cymryd rhan lawn yn yr achosion;
(d) defnyddio unrhyw arbenigedd arbennig y panel neu GCC yn effeithiol;
(e) osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.
Dyletswydd y partïon mewn achosion gorchmynion interim
29 

(1) Dyletswydd y partïon yw—
(a) cydweithredu â’r panel gorchmynion interim, a
(b) ei helpu i gyflawni ei amcan o dan reoliad 28(1)(c).
(2) Os yw’r panel gorchmynion interim wedi ei fodloni bod person wedi torri’r ddyletswydd ym mharagraff (1), caiff ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
Achosion gorchmynion interim: pan nad oes angen gwrandawiad
30 

(1) Caiff panel gorchmynion interim ddyfarnu ar achosion gorchmynion interim heb wrandawiad—
(a) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achosion heb wrandawiad,
(b) os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r gorchymyn interim sydd i gael ei wneud gan y panel, neu (mewn achos pan fo’r panel yn ystyried yr adolygiad o orchymyn interim) i’r penderfyniad a bennir yn adran 147(1)(b) i (e) o’r Ddeddf sydd i gael ei wneud gan y panel, gan gynnwys—
(i) y cyfnod y mae’r gorchymyn interim i gael effaith ar ei gyfer, a
(ii) yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, yr amodau sydd i gael eu gosod ar gofrestriad y person cofrestredig â GCC,
(c) os gwneir datganiad ysgrifenedig o ffeithiau y cytunwyd arnynt gan—
(i) GCC,
(ii) y person cofrestredig, a
(iii) y panel, a
(d) os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.
(2) Pan ddyfernir ar achosion yn unol â pharagraff (1) heb wrandawiad —
(a) caiff cadeirydd y panel wneud neu gadarnhau gorchymyn interim;
(b) ar unrhyw adeg yn ystod yr achosion caiff y panel neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal.
(3) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel gorchmynion interim eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel gorchmynion interim eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad gorchmynion interim.
Rheoli achos mewn achosion gorchmynion interim
31 

(1) Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rheoli achos rhagarweiniol mewn perthynas ag achosion gorchmynion interim.
(2) Caiff y rheolau wneud darpariaeth yn benodol—
(a) mai panel gorchmynion interim neu berson a benodir o dan y rheolau sy’n gwneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol;
(b) ynghylch cymwysterau ar gyfer penodiad o’r fath;
(c) ynghylch adolygiadau achos;
(d) ynghylch cyfarwyddydau y caniateir iddynt gael eu rhoi;
(e) ynghylch cofnodion cyfarwyddydau,
(f) ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddydau (a gaiff gynnwys pŵer panel gorchmynion interim i ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol).
(3) Pan fo’r rheolau yn darparu i berson ac eithrio’r panel gorchmynion interim wneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol, rhaid iddynt ddarparu i’r person hwnnw—
(a) gweithredu’n annibynnol ar y partïon, a
(b) arfer unrhyw bŵer i roi cyfarwyddydau at ddiben sicrhau bod yr apêl yn cael ei chynnal yn gyfiawn, yn ddiymdroi ac yn effeithiol yn unig.
(4) Mae amcan cyffredinol panel gorchmynion interim o dan reoliad 28(1)(c) (i ymdrin ag achosion yn deg ac yn gyfiawn) hefyd yn gymwys i berson o’r fath.
(5) Ni chaiff rheolau a wneir o dan y rheoliad hwn ddarparu ar gyfer dyfarnu costau.
Tystiolaeth mewn achosion gorchmynion interim
32 

(1) Nid yw tystiolaeth yn dderbyniol mewn achosion gorchmynion interim oni bai—
(a) y byddai’n dderbyniol mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr, neu
(b) bod y panel gorchmynion interim yn ystyried bod y dystiolaeth yn berthnasol, a’i bod yn deg derbyn y dystiolaeth honno.
(2) Mae tystysgrif sydd wedi ei llofnodi gan swyddog cymwys mewn llys o unrhyw awdurdodaeth bod person wedi ei euogfarnu o drosedd neu, yn yr Alban, euogfarn gryno, yn dystiolaeth bendant o’r drosedd.
(3) Mae tystysgrif bod person wedi ei gynnwys ar restr wahardd (at ddibenion adran 117(1)(c) o’r Ddeddf), a ddyroddir gan y person sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr, yn dystiolaeth bendant o’r ffaith honno.
(4) Mae tystysgrif a ddyroddir gan gorff perthnasol (at ddibenion adran 117(1)(d) o’r Ddeddf) ei fod wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer yn dystiolaeth bendant o’r dyfarniad hwnnw.
Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau gorchmynion interim
33 

(1) Rhaid eithrio’r cyhoedd o wrandawiad gorchmynion interim oni bai—
(a) bod y person cofrestredig yn gofyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus, a
(b) bod y panel gorchmynion interim yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.
(2) Pan gynhelir gwrandawiad yn gyhoeddus, caiff y panel gorchmynion interim eithrio person o’r gwrandawiad os yw’n meddwl bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.
Achosion gorchmynion interim: gwysion tystion
34 

(1) At ddibenion achosion gorchmynion interim—
(a) caiff panel gorchmynion interim weinyddu llwon,
(b) caiff GCC ohono ei hun ddyroddi gwŷs tyst sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad i ddarparu gwybodaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfen, a chaiff unrhyw barti arall ofyn i GCC ddyroddi gwŷs o’r fath.
(2) Nid yw unrhyw berson i gael ei orfodi gan wŷs a ddyroddir o dan baragraff (1)(b) i gyflwyno unrhyw ddogfen na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w chyflwyno mewn achos sifil yng Nghymru a Lloegr.
Mesurau arbennig ar gyfer tystion etc. mewn gwrandawiadau gorchmynion interim
35 

(1) Mae hawlogaeth gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad gorchmynion interim, gan gynnwys y person cofrestredig, i gael mesurau arbennig—
(a) os yw’r person o dan 18 oed, neu
(b) os yw’r panel gorchmynion interim yn ystyried bod y dystiolaeth a roddir gan y person yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd—
(i) anabledd corfforol, anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, salwch neu gyflwr iechyd neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu ar alcohol, neu
(ii) ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth.
(2) Mae gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad gorchmynion interim hawlogaeth i gael mesurau arbennig os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol a bod y person yn ddioddefwr honedig.
(3) Wrth benderfynu a yw tystiolaeth a roddir gan berson yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd mater a bennir ym mharagraff (1)(b), rhaid i’r panel gorchmynion interim ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.
(4) Caiff panel gorchmynion interim gynnig mesurau arbennig i berson nad oes hawlogaeth ganddo i’w cael o dan baragraff (1) neu (2), os yw’n meddwl bod gwneud hynny er budd y cyhoedd.
(5) Ystyr “mesurau arbennig” (“special measures”) yw unrhyw fesurau arbennig y mae’r panel gorchmynion interim yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben gwella ansawdd y dystiolaeth a roddir gan berson yn y gwrandawiad.
(6) Wrth ystyried pa fesurau arbennig yn benodol a all fod yn briodol, rhaid i’r panel gorchmynion interim ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.
(7) Caiff person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’r galluedd i wneud hynny wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.
(8) Dyfernir a oes gan berson alluedd at ddibenion paragraff (7) yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
(9) Dim ond os yw’r panel gorchmynion interim wedi ei fodloni nad yw tystiolaeth y plentyn yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd absenoldeb y mesur neu’r mesurau arbennig y mae’r plentyn yn dymuno eu gwrthod y caiff person sydd o dan 18 oed (“plentyn”) (“child”) wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.
(10) Wrth gyrraedd safbwynt fel sy’n ofynnol gan baragraff (9), rhaid i’r panel gorchmynion interim ystyried—
(a) oedran ac aeddfedrwydd y plentyn,
(b) gallu’r plentyn i ddeall canlyniadau rhoi tystiolaeth heb y mesur neu’r mesurau arbennig,
(c) lles pennaf y plentyn,
(d) safbwyntiau rhieni’r plentyn neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(e) y berthynas (os oes perthynas) rhwng y plentyn ac unrhyw barti yn yr achos,
(f) natur ac amgylchiadau honedig y mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef, ac
(g) unrhyw ffactor arall y mae’r panel yn meddwl ei fod yn berthnasol.
(11) Rhaid i banel gorchmynion interim roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fesur arbennig y mae wedi ei gynnig gael ei weithredu neu ei ddarparu, ac eithrio pan fo gan y person o dan sylw hawlogaeth i wrthod y mesur arbennig a’i fod wedi gwneud hynny.
(12) Os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol, ni chaiff y person cofrestredig groesholi dioddefwr honedig yn bersonol, oni bai—
(a) bod y dioddefwr honedig wedi cydsynio i hyn, a
(b) nad yw’r panel gorchmynion interim yn ystyried bod ffeithiau honedig y mater yn gyfystyr â, neu’n debygol o fod yn gyfystyr â, throsedd rywiol o dan adran 62 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999.
(13) Os yw paragraff (12) yn golygu nad oes caniatâd gan y person cofrestredig i groesholi person yn bersonol, rhaid i’r panel gorchmynion interim roi cyfle digonol i’r person cofrestredig i benodi cynrychiolydd i wneud hynny.
(14) Os nad yw’r person cofrestredig yn penodi cynrychiolydd o dan baragraff (13), ond ei fod yn dymuno bod dioddefwr honedig yn cael ei groesholi, rhaid i GCC benodi cynrychiolydd i groesholi’r person ar ran y person cofrestredig.
Gwrandawiadau gorchmynion interim: y weithdrefn
36 

(1) Mae hawlogaeth gan berson cofrestredig i gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad gorchmynion interim gan—
(a) cyfreithiwr neu gwnsler,
(b) cynrychiolydd o unrhyw sefydliad proffesiynol, neu
(c) os yw’r panel gorchmynion interim yn cytuno, unrhyw berson arall.
(2) Mae hawlogaeth gan y partïon i roi tystiolaeth.
(3) Ni chaiff person sy’n cynrychioli neu’n cynghori’r person cofrestredig roi tystiolaeth.
(4) Caniateir bwrw ymlaen â gwrandawiad gorchmynion interim hyd yn oed os nad yw’r person cofrestredig yn bresennol ac os nad yw wedi ei gynrychioli, os yw’r panel gorchmynion interim wedi ei fodloni bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i roi hysbysiad o’r gwrandawiad i’r person.
Rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim
37 

(1) Rhaid i GCC wneud rheolau ynghylch y weithdrefn sydd i gael ei dilyn mewn gwrandawiadau gorchmynion interim (“rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim”) (“interim orders hearings rules”).
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a) cânt roi canllawiau (gan gynnwys canllawiau ar ffurf rheolau enghreifftiol) i GCC ynghylch cynnwys rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim, a
(b) rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan is-baragraff (a).
(3) Rhaid i GCC, wrth wneud rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(a).
(4) Pan fo canllawiau wedi eu rhoi ar ffurf rheolau enghreifftiol rhaid i GCC, ar ôl gwneud unrhyw reolau gwrandawiadau gorchmynion interim, gyhoeddi dogfen sy’n esbonio unrhyw wyriadau sylweddol oddi ar y rheolau enghreifftiol neu unrhyw ychwanegiadau atynt.
(5) Mae pŵer GCC i wneud rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2016