
2016 No. 1097 (Cy. 261)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016
Gwnaed 15 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Tachwedd 2016
Yn dod i rym 3 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 91(1)(c) a (d) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru.
(2) Mae cyfeiriadau at adrannau yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriadau at adrannau o’r Ddeddf.
Cynnwys y gofrestr
3 

(1) Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos—
(a) unrhyw gymwysterau, gwybodaeth neu brofiad a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn sydd gan y person (os oes rhai), a
(b) pan fo penderfyniad perthnasol wedi ei wneud mewn cysylltiad ag addasrwydd y person i ymarfer, yr wybodaeth a bennir yn rheoliadau 4 i 9.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad perthnasol” yw—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (3), dyfarniad gan banel addasrwydd i ymarfer bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer o dan yr adrannau a ganlyn—
(i) adran 138 (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);
(ii) adran 152 (adolygu ymgymeriadau: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);
(iii) adran 153 (adolygu gorchmynion cofrestru amodol: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);
(iv) adran 154 (adolygu gorchmynion atal dros dro: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);
(v) adran 155 (adolygu gorchmynion atal dros dro amhenodol);
(b) penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim i wneud gorchymyn interim o dan adran 144 (gorchmynion interim) neu i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim o dan adran 147 (adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posibl),
(c) penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn dilyn cyfaddefiad gan berson cofrestredig bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer,
(d) penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i roi cyngor neu rybudd i berson cofrestredig o dan adran 137 (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariad), 152(3), 153(3), 154(3) neu 155(6) yn dilyn canfyddiad nad oes amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer,
(e) penderfyniad gan GCC i ddyroddi rhybudd i berson cofrestredig o dan adran 126(3)(c),
(f) penderfyniad gan GCC i gytuno ar ymgymeriadau â pherson cofrestredig o dan adran 126(3)(d), ac
(g) penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i adfer person i’r rhan berthnasol o’r gofrestr o dan adran 98(1)(a).
(3) Nid yw dyfarniad gan banel addasrwydd i ymarfer bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer yn benderfyniad perthnasol os yw’r gwarediad a wneir yn—
(a) gorchymyn dileu o dan adran 138(9) (yn ddarostyngedig i is-adran (10)), 152(8)(e), 153(9)(d) neu 154(8)(d) (yn ddarostyngedig i is-adran (9)), neu
(b) gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb o dan adran 135(2), 152(2), 153(2), 154(2) neu 155(5).
Gwybodaeth berthnasol: amhariad ar addasrwydd i ymarfer
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(a).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig (y “cofnod perthnasol”)—
(a) datgan y canfuwyd bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, a
(b) pennu’r ffordd y gwaredodd y panel addasrwydd i ymarfer y mater o dan adran 138 neu unrhyw un neu ragor o adrannau 152 i 155.
(3) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi cytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig, rhaid i’r cofnod perthnasol bennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.
(4) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, rhaid i’r cofnod perthnasol bennu’r amodau a osodir ar gofrestriad y person cofrestredig, ac eithrio unrhyw amodau sy’n ymwneud â’i iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl.
(5) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol sydd wedi peidio â chael effaith, rhaid i’r cofnod perthnasol barhau i nodi bod y person yn ddarostyngedig o’r blaen i orchymyn o’r fath a’r dyddiadau pan oedd y gorchymyn yn cael effaith.
(6) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn atal dros dro sydd wedi peidio â chael effaith, rhaid i’r cofnod perthnasol barhau i nodi bod y person wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn o’r fath a’r dyddiadau pan oedd y gorchymyn yn cael effaith.
Gwybodaeth berthnasol: gorchmynion interim
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(b).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig—
(a) datgan y math o orchymyn interim sydd wedi ei wneud neu wedi ei gadarnhau, neu (yn achos amrywio gorchymyn interim o dan adran 147) yr amrywiad sydd wedi ei wneud, a
(b) pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol interim, pennu’r amodau a osodir ar gofrestriad y person, ac eithrio unrhyw amodau sy’n ymwneud â’i iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl.
Gwybodaeth berthnasol: ymgymeriadau yn dilyn cyfaddefiad o amhariad
6 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(c).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig—
(a) datgan bod y person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, a
(b) pennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.
Gwybodaeth berthnasol: canfyddiad o ddim amhariad gan banel addasrwydd i ymarfer
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(d).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig ddatgan—
(a) y canfuwyd nad oes amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, a
(b) bod y panel addasrwydd i ymarfer wedi rhoi cyngor neu rybudd (yn ôl y digwydd) i’r person.
Gwybodaeth berthnasol: adfer
8 
Pan fo cofnod mewn cysylltiad â pherson wedi ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr o dan adran 98(1)(a), rhaid i’r cofnod hefyd ddatgan bod y person wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer.
Gwybodaeth berthnasol: penderfyniadau gan GCC
9 

(1) Pan fo GCC wedi dyroddi rhybudd i berson cofrestredig o dan adran 126(3)(c), rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person ddatgan—
(a) nad yw’r cwestiwn ynghylch amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, a
(b) bod rhybudd wedi ei ddyroddi gan GCC.
(2) Pan fo GCC wedi cytuno ar ymgymeriadau â pherson cofrestredig o dan adran 126(3)(d), rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person—
(a) datgan nad yw’r cwestiwn ynghylch amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, a
(b) pennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
15th Tachwedd 2016
YR ATODLEN
Cynnwys y gofrestr – Cymwysterau, gwybodaeth neu brofiad perthnasol
Rheoliad 3(1)(a)
1 
Cymeradwyaeth gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae ei ardal yng Nghymru i weithredu fel gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd yn unol ag adran 114(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.