
2016 Rhif 1084 (Cy. 259)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2016
Made 9 Tachwedd 2016
Laid before Parliament 14 Tachwedd 2016
Coming into force 7 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, a thrwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Rhagfyr 2016 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle Atodlen 3 rhodder—“
ATODLEN 3
Ceisiadau am dystysgrifau: ffioedd
Erthyglau 3 a 5


Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau Ffi (£) Ffi (allforiwr bach) (£)
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw grawn:  
(a) arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy 65.24 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 130.48 32.62 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 65.24
(b) archwiliad mewn labordy yn unig 36.35 18.18
(c) dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy 13.87 6.94
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o rawn:  
Monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3) a, phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig 59.53 29.74”.
(3) Yn lle Atodlen 4 rhodder—“
ATODLEN 4
Ffioedd gwasanaethau cyn-allforio
Erthygl 5


Gwasanaeth Ffi (£) Ffi (allforiwr bach) (£)
Gwasanaeth cyn-allforio 49.68 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 99.36 24.84 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 49.68.”
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2016