
2016 Rhif 1072 (Cy. 257)
Caffael Tir, Cymru
Digolledu
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016
Gwnaed 7 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Tachwedd 2016
Yn dod i rym 5 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
Diwygio symiau rhagnodedig ar gyfer y taliad colli cartref
2 
Pan fo dyddiad y dadleoli ar 5 Rhagfyr 2016 neu ar ôl hynny—
(a) £55,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
(b) £5,500 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
(c) £5,500 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
Dirymu ac arbedion
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 wedi eu dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 5 Rhagfyr 2016.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2016