
2016 Rhif 1057 (Cy. 249)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016
Gwnaed 1 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Tachwedd 2016
Yn dod i rym 24 Tachwedd 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y mae adran 8(3) o’r Ddeddf honno yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Tachwedd 2016.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012 wedi ei ddirymu.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2016