
2016 Rhif 1009 (Cy. 243) (C. 70)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 7) 2016
Gwnaed 18 Hydref 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 7) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 23 Tachwedd 2016.
(2) Yn Rhan 1 (Rheoleiddio tai rhent preifat)—
(a) adran 4 (gofyniad i landlord fod yn gofrestredig);
(b) adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig) at bob diben sy’n weddill;
(c) adran 6 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) at bob diben sy’n weddill;
(d) adran 7 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(e) adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig) at bob diben sy’n weddill;
(f) adran 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod);
(g) adran 10 (ystyr gwaith gosod) at bob diben sy’n weddill;
(h) adran 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo);
(i) adran 12 (ystyr gwaith rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(j) adran 13 (y drosedd o benodi asiant heb drwydded);
(k) adran 28 (erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol);
(l) adran 29 (hysbysiadau cosbau penodedig) at bob diben sy’n weddill;
(m) adran 30 (gorchmynion atal rhent);
(n) adran 31 (dirymu gorchmynion atal rhent);
(o) adran 32 (gorchmynion ad-dalu rhent);
(p) adran 33 (gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach);
(q) adran 34 (pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33) at bob diben sy’n weddill;
(r) adran 35 (troseddau gan gyrff corfforaethol);
(s) adran 40 (cod ymarfer) at bob diben sy’n weddill;
(t) adran 41 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;
(u) adran 42 (cyfarwyddiadau) at bob diben sy’n weddill;
(v) adran 43 (gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth);
(w) adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau); ac
(x) adran 46 (rheoliadau ar ffioedd) at bob diben sy’n weddill.
(3) Yn Rhan 2 o’r Ddeddf (Digartrefedd), adran 75(3) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).
(4) Yn Rhan 4 o’r Ddeddf (Safonau ar gyfer tai cymdeithasol), adran 129 (cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol).
(5) Yn Rhan 5 o’r Ddeddf (Cyllid tai), adran 131(1), (2), (3), (4)(a) a (b) (diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai).
(6) Yn Rhan 6 o’r Ddeddf (Caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr), adran 138 (diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988).
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2016