
2015 Rhif 990 (Cy. 67) (C. 67)
Bywyd Gwyllt, Cymru
Rheoliadau Deddf Seilwaith 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015
Made 24 Mawrth 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 57(4)(b) o Ddeddf Seilwaith 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enw
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Seilwaith 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
Darpariaeth sy’n dod i rym ar 12 Ebrill 2015
2 
Mae Rhan 4 o Ddeddf Seilwaith 2015 (rheolaeth amgylcheddol ar rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion) yn dod i rym ar 12 Ebrill 2015 i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru.
Carl Sergeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2015