
2015 Rhif 985 (Cy. 66) (C. 65)
Y Gymraeg
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 8) 2015
Gwnaed 25 Mawrth 2015
Yn dod i rym 16:00 ar 25 Mawrth 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 8) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Mesur” yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Cychwyn
2 
Daw adran 108 o’r Mesur (dogfen polisi gorfodi) i rym am 16:00 ar 25 Mawrth 2015.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
25 Mawrth 2015