
2015 Rhif 872 (Cy. 65)
Draenio Tir, Cymru
Gorchymyn Ardaloedd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Chil-y-coed a Gwynllŵg (Diddymu) 2015
Gwnaed 24 Mawrth 2015
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

O dan adran 3(1)(a) ac adran 4(3) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“Deddf 1991”), mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“y Corff”) wedi paratoi Cynllun yn gwneud darpariaethau ar gyfer materion a bennwyd yn adran 3(2)(d), (e) ac (i) o’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 3(1) o Ddeddf 1991, mae y Corff wedi cyflwyno’r Cynllun i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud y Gorchymyn canlynol yn cadarnhau’r Cynllun, yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 1991. Mae Gweinidogion Cymru wedi anfon yr hysbysiad hwn at yr awdurdodau lleol perthnasol a chyrff eraill a bennir ym mharagraff 2(2) o’r Atodlen honno.
Ni wnaed unrhyw wrthwynebiad i’r Gorchymyn draft.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(5) a (7) o Ddeddf 1991 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Chil-y-coed a Gwynllŵg (Diddymu) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Cadarnhau’r Cynllun
2 

(1) Mae’r Cynllun a gyflwynwyd gan y Corff wedi ei gadarnhau.
(2) Mae’r Cynllun wedi ei nodi yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Treuliau Gweinidogion Cymru
3 
Rhaid i dreuliau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud a chadarnhau’r Gorchymyn hwn gael eu hysgwyddo gan y Corff.
Carl Sergeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2015
YR ATODLEN
CYNLLUN 2014 I DDIDDYMU ARDALOEDD A BYRDDAU DRAENIO MEWNOL RHANNAU ISAF AFON GWY A CHIL-Y-COED A GWYNLLŴG A CHREU ARDAL DRAENIO MEWNOL NEWYDD A’I THROSGLWYDDO I GORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU A GYFLWYNWYD GAN GORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU
Erthygl 2(2)
1 
Daw’r Cynllun hwn i rym ar 1 Ebrill 2015.
2 
Yn y Cynllun hwn—
 mae i “aelod” yr un ystyr a roddir i “member” yn adran 124(1) o ddeddf Pensiynau 1995;
 mae i “aelod actif” yr un ystyr ag “active member” yn Atodlen 1 i Reoliadau LGPS;
 ystyr “Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg” yw’r bwrdd draenio mewnol a gyfansoddwyd gan Orchymyn Ardal Draenio Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg 1942 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Bwrdd Afon Wysg 1954 ac ystyr “Ardal Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg” yw’r ardal draenio mewnol a gyfansoddir gan y Gorchmynion hyn;
 ystyr “Bwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy” yw’r bwrdd draenio mewnol a gyfansoddwyd gan Orchymyn Bwrdd Dalgylch Afon Gwy (Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy) 1950 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Ardaloedd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy ac Afon Llugwy (Newid Ffiniau) 2014 ac ystyr “Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy” yw’r ardal draenio mewnol a gyfansoddwyd gan y Gorchmynion hyn;
 ystyr “cyflogai” yw unigolyn sydd wedi ymrwymo i gontract gwaith neu gontract gwasanaeth neu brentisiaeth neu sy’n gweithio o dan delerau contract neu brentisiaeth o’r fath, pa un a yw’r cyfryw gontract wedi’i gytuno’n ddatganedig (yn ysgrifenedig neu ar lafar) neu fod hynny ymhlyg yn natur y berthynas, ond nid yw’n cynnwys unigolyn sy’n darparu gwasanaethau dan gontract ar gyfer gwasanaethau, a rhaid dehongli “cyflogwr” a “cyflogaeth” yn unol â hynny;
 ystyr “Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol” yw’r cynllun a sefydlwyd gan y Rheoliadau LGPS;
 ystyr “dyddiad cychwyn” yw’r dyddiad y daw’r Cynllun i rym;
 ystyr “Rheoliadau LGPS” yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013;
 ystyr “Rheoliadau Trosiannol LGPS” yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Darpariaethau Trosiannol, Arbed a Diwygio) 2014;
 ystyr “y Corff” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Diddymu Ardaloedd a Byrddau presennol a sefydlu Ardal newydd
3 
O’r dyddiad cychwyn ymlaen—
(a) mae Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Bwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy wedi eu diddymu;
(b) mae Ardal Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg a Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg wedi eu diddymu;
(c) bydd ardal draenio newydd a elwir “Ardal Draenio Mewnol Gwent” yn cael ei chyfansoddi ar gyfer y tir a oedd gynt o fewn Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a’r tir a oedd gynt o fewn Ardal Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg;
(d) y Corff fydd y bwrdd draenio ar gyfer Ardal Draenio Mewnol Gwent; ac
(e) bydd yr holl eiddo, hawliau, pwerau, dyletswyddau, rhwymedigaethau ac atebolrwydd fel yr oeddent wedi’u breinio ym Mwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy neu Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg neu i gael eu cyflawni gan y Byrddau hynny yn union cyn y dyddiad cychwyn, yn cael eu trosglwyddo i’r Corff a’u breinio ynddo, neu i gael eu cyflawni ganddo (yn ôl y digwydd).
4 
Caiff y Corff adennill holl ôl-ddyledion ardrethi a godwyd gan Fwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy neu gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg cyn y dyddiad cychwyn mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod sy’n dod i ben cyn y dyddiad cychwyn yn yr un modd â phe baent wedi eu codi gan y Corff.
5 
Yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol y caiff y Cynllun hwn ei wneud ynddi, caiff y Corff adennill ôl-ddyledion ardrethi dim ond hyd at y lefel a bennwyd gan Fwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn eu trefn ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.
6 
Mae’r Cynllun i’w weithredu fel tystiolaeth bendant o bob peth a drosglwyddwyd o dan y Cynllun hwn heb fod angen unrhyw aseiniadau, trawsgludiadau neu weithredoedd trosglwyddo pellach.
Cyflogeion
7 
O’r dyddiad cychwyn ymlaen, bydd holl gyflogeion Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn trosglwyddo i’r Corff.
Pensiynau
8 
Bydd unrhyw ddarpariaethau o’r Rheoliadau LGPS neu’r Rheoliadau Trosiannol LGPS a oedd yn union cyn y dyddiad cychwyn yn rhoi swyddogaethau i Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gyflogwr aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael effaith o’r dyddiad cychwyn ymlaen, fel pe bai y Corff yn gyflogwr ar yr aelod ar hyd yr amser pan oedd y person hwnnw yn aelod actif.