
2015 No. 848 (Cy. 63)
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru
Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
Gwnaed 17 Mawrth 2015
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f), 2(1) a 3(1), (2), (3)(a) a (4) o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, a pharagraff 6(b) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny yr oedd yn ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y byddai’r Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

Yn unol ag adran 24(1) a (3) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a dod i ben
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015.
(2) Ac eithrio rheoliad 10, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.
(3) Daw rheoliad 10 i rym ar yr un diwrnod â pharagraff 38 o Atodlen 13 i Ddeddf Pensiynau 2014, ac ar y diwrnod hwnnw bydd rheoliad 9 yn peidio â chael effaith.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y cynllun newydd” (“the new scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015;
 ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993;
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013; ac
 ystyr “hen gynllun” (“old scheme”) yw’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru neu’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007.
RHAN 2 Addasu darpariaethau contractio allan
Cymhwyso’r Rhan hon
3 
Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a) pan wneir dewisiad o dan adran 11 (dewisiadau ynghylch cyflogaethau sydd wedi eu cynnwys o dan dystysgrifau contractio allan) o Ddeddf 1993 mewn perthynas â phersonau sy’n dod yn aelodau o’r cynllun newydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 a chyn 6 Ebrill 2016 (pa un ai bod unrhyw un neu ragor o’r personau hynny yn aelodau o hen gynllun ai peidio); a
(b) pan fo’r cynllun newydd yn bodloni gofynion adran 9 (gofynion o ran ardystio cynlluniau: cyffredinol) o Ddeddf 1993.
Contractio allan
4 

(1) Mae Rhan 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996 (ardystio cyflogaethau) wedi ei haddasu fel a ganlyn o ran y modd y’i cymhwysir i’r cynllun newydd.
(2) Nid yw’r gofynion yn rheoliad 2(1)(a) (gwneud dewisiadau ar gyfer dyroddi tystysgrifau contractio allan) a rheoliadau 3 (hysbysiadau gan gyflogwyr o fwriad i wneud dewisiad) i 5 (amser ar gyfer gwneud dewisiad) yn gymwys.
(3) Yn rheoliad 6 (gwybodaeth sydd i’w chynnwys mewn dewisiad)—
(a) mae paragraff (1) i’w ddarllen fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-baragraffau (a) i (f)—“
(a) the name by which the new scheme is to be known;
(b) the name by which the old schemes are known; and
(c) any other information necessary to enable the Commissioners for Her Majesty’s Revenue and Customs to identify the old schemes.”; a
(b) nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys.
RHAN 3 Addasu darpariaethau ymadawr cynnar a darpariaethau eraill
Cymhwyso’r Rhan hon
5 
Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo person (P)—
(a) yn aelod o hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth tybiedig cynllun trosglwyddo o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
(b) yn aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac
(c) yn berson y mae paragraff 1 neu 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 yn gymwys iddo yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd, ac y penderfynir ei gyflog terfynol at ddibenion yr hen gynllun drwy gyfeirio at y paragraff hwnnw.
Ardystio
6 

(1) Mae adran 15A o Ddeddf 1993 (lleihau lleiafswm gwarantedig o ganlyniad i ddebyd pensiwn) wedi ei haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â P.
(2) Wrth gymhwyso’r adran honno i’r hen gynllun, mae cyfeiriad yn is-adran (2) o’r adran honno at wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy naill ai ar gyfer yr hen gynllun neu ar gyfer y cynllun newydd.
Cadw budd
7 

(1) Mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; cadw budd o dan gynlluniau galwedigaethol) wedi ei haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â P.
(2) Wrth gymhwyso’r Bennod honno i’r hen gynllun—
(a) yn adran 70 (dehongli), yn y diffiniadau o “relevant employment” a “long service benefit” mae cyfeiriad at y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad naill ai at yr hen gynllun neu’r cynllun newydd;
(b) yn adran 71(1) (egwyddor sylfaenol ynglŷn â budd gwasanaeth byr)—
(i) mae’r gofyniad bod cynllun yn gwneud darpariaeth i’w ystyried yn ofyniad bod rhaid i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd wneud y ddarpariaeth honno;
(ii) mae cyfeiriad at daliad trosglwyddo i’r cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at daliad trosglwyddo i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;
(iii) mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd;
(iv) mae cyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P naill ai o dan yr hen gynllun neu o dan y cynllun newydd,
ac mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod at “short service benefit” i’w dehongli yn unol â hynny;
(c) yn adran 71(5), mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd;
(d) yn adran 71(7)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P naill ai ar gyfer yr hen gynllun neu ar gyfer yr hen gynllun a’r cynllun newydd ar y cyd; ac
(e) yn adrannau 72(2) (dim gwahaniaethu rhwng buddiolwyr gwasanaeth byr a buddiolwyr gwasanaeth hir), 74(6) a (7) (cyfrifo budd gwasanaeth byr), 75(3) a (4) (credydau) a 76(1) a (3) (cynyddiadau pensiwn), mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.
(3) Wrth gymhwyso’r Bennod honno i’r cynllun newydd—
(a) yn adran 70, yn y diffiniadau o “relevant employment” a “long service benefit”, mae cyfeiriad at y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;
(b) yn adran 71(1)—
(i) mae gofyniad bod cynllun yn gwneud darpariaeth i’w ystyried yn ofyniad bod rhaid i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd wneud y ddarpariaeth honno;
(ii) mae cyfeiriad at daliad trosglwyddo i’r cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at daliad trosglwyddo i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;
(iii) mae cyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P naill ai o dan yr hen gynllun neu o dan y cynllun newydd,
ac mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod at “short service benefit” i’w dehongli yn unol â hynny;
(c) yn adran 71(7)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P naill ai ar gyfer y cynllun newydd neu ar gyfer yr hen gynllun a’r cynllun newydd ar y cyd; a
(d) yn adran 74(6), mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy sydd wedi ei derfynu, mae cyfeiriad at ddechrau’r gwasanaeth hwnnw i’w ystyried yn gyfeiriad at ddechrau gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.
Ailbrisio budd a gedwir
8 

(1) Mae Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: ailbrisio buddion cronedig) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Wrth gymhwyso Pennod 2 at y diben o ailbrisio budd sydd yn daladwy i P, neu mewn perthynas â P, o dan yr hen gynllun—
(a) yn adran 83(1)(a)(ii) (cwmpas Pennod 2), mae’r cyfeiriad at y dyddiad y daw gwasanaeth pensiynadwy P i ben i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad y daw gwasanaeth pensiynadwy P i ben mewn perthynas â’r cynllun newydd; a
(b) mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod honno at “the termination date” a “pre-pension period” i’w dehongli yn unol â hynny.
Diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig
9 

(1) Mae Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (“gwrth-ffrancio”)) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun—
(a) yn adran 87(1)(a)(i) (egwyddor diogelwch cyffredinol), mae’r cyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi ei chontractio allan drwy gyfeirio at gynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi ei chontractio allan drwy gyfeirio at y cynllun newydd; a
(b) mae cyfeiriadau dilynol at “the cessation date” i’w dehongli yn unol â hynny.
Diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig ar ôl diddymu contractio allan
10 

(1) Mae Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (“gwrth-ffrancio”)) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun—
(a) yn adran 87(1)(a)(i) (egwyddor diogelu gyffredinol), mae’r cyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun a oedd, cyn yr ail ddyddiad diddymu, yn gynllun seiliedig ar gyflog a gontractiwyd allan, i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn perthynas â’r cynllun newydd; a
(b) mae cyfeiriadau dilynol at “the cessation date” i’w dehongli yn unol â hynny.
Gwerthoedd trosglwyddo
11 

(1) Mae Pennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; gwerthoedd trosglwyddo) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun, yn—
(a) adran 93(1)(a) (cwmpas Pennod 4),
(b) adran 97(3)(a) (cyfrifo cyfwerthoedd ariannol), ac
(c) adran 98(1A) a (3) (amrywio a cholli hawliau o dan adran 94),
mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.
Rheoliadau gwerthoedd trosglwyddo
12 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 1996 wedi eu haddasu fel a ganlyn.
(2) Wrth gymhwyso rheoliad 3 o’r Rheoliadau hynny (rheolau ar barhad cyflogaeth ar ôl terfynu gwasanaeth pensiynadwy) i P fel aelod o’r hen gynllun—
(a) ym mharagraff (1), mae cyfeiriad at gyflogaeth y mae cynllun yn gymwys iddi i’w ystyried yn gyfeiriad at gyflogaeth y mae’r cynllun newydd yn gymwys iddi;
(b) ym mharagraff (1)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P yn terfynu ar gais P i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd yn terfynu felly; ac
(c) ym mharagraff (1)(b)(i), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P yn parhau tan y dyddiad gwarant i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd yn parhau felly.Wrth gymhwyso rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny (hawl i gael cyfwerth ariannol ychwanegol pan derfynir cyflogaeth y mae’r cynllun yn gymwys iddi) i P fel aelod o’r hen gynllun, ym mharagraffau (1), (2), (3)(a) a (4), mae cyfeiriad at derfynu cyflogaeth P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu cyflogaeth P y mae’r cynllun newydd yn gymwys iddi.
RHAN 4 Addasu’r gyfundrefn drethu
Tâl lwfans oes
13 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
(a) sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
(b) sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd;
(c) y telir iddo bensiwn afiechyd haen uchaf neu haen isaf o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015; a
(d) sydd â phensiwn afiechyd a delir o’r cynllun newydd, sydd wedi ei leihau o ganlyniad i P gael yr hawl i daliad o bensiwn cynllun (o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004) o dan yr hen gynllun.
(2) Mae adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004 (digwyddiadau crisialu budd a symiau a grisielir) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P, fel y pennir ym mharagraff (3).
(3) Mae taliad o unrhyw bensiwn cynllun i P o’r hen gynllun i’w drin fel pe na bai’n ddigwyddiad crisialu budd o fewn ystyr adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004.
Tâl lwfans blynyddol
14 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
(a) sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
(b) sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac
(c) sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.
(2) Mae adran 234 o Ddeddf Cyllid 2004 (trefniadau buddion diffiniedig) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P fel a bennir ym mharagraff (3).
(3) Wrth gyfrifo gwerth terfynol hawliau P o dan y cynllun newydd ar gyfer y cyfnod mewnbwn pensiwn pan gaiff P yr hawl i daliad o’r pensiwn afiechyd haen isaf, rhaid peidio â chyfrif fel rhan o’r gwerth terfynol yr elfen o’r pensiwn afiechyd haen isaf sy’n cynrychioli gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.
RHAN 5 Addasu darpariaethau budd gwasanaeth byr
Budd gwasanaeth byr
15 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
(a) sy’n aelod gohiriedig o’r cynllun newydd;
(b) sydd â hawl i gael buddion o dan y cynllun newydd; ac
(c) y mae—
(i) ei hawlogaeth i gael buddion o dan y cynllun newydd wedi ei phenderfynu gan, neu
(ii) ei fuddion o dan y cynllun newydd yn cael eu cyfrifo drwy gyfeirio at,
oedran pensiwn gohiriedig P yn hytrach nag oedran pensiwn arferol P.
(2) At ddibenion y gofynion yn adrannau 71, 72, 74 a 75 o Ddeddf 1993 ac mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Bennod 1 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, fel y maent yn gymwys i P, anwybyddir unrhyw wahaniaeth—
(a) rhwng hawlogaeth P i gael buddion o dan y cynllun newydd a hawlogaeth unrhyw aelod actif i gael buddion o dan y cynllun newydd, neu
(b) rhwng y cyfrifiad o fuddion P o dan y cynllun newydd ac unrhyw gyfrifiad o fuddion aelod actif o dan y cynllun newydd.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2015