
2015 Rhif 631 (Cy. 51)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015
Gwnaed 9 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; ac
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 1986
3 
Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “31 March 2015” rhodder “31 March 2016”.
Diwygio Rheoliadau 1997
4 
Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “31 March 2015” rhodder “31 March 2016”.
Diwygio Rheoliadau 2007
5 
Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007, yn lle “31 Mawrth 2015” rhodder “31 Mawrth 2016”.
Dirymu
6 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014 wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2015