
2015 rHIF 604 (Cy. 49)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015
Gwnaed 9 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol 10 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, o dan adran 8(3) o’r Mesur hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub Cymreig a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.
Dangosyddion perfformiad
2 

(1) Pennir y dangosyddion perfformiad yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn at ddiben adran 8(1)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(2) Mae’r dangosyddion perfformiad a bennir yn yr Atodlen yn gymwys i flynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac ar ôl hynny.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2015
YR ATODLEN
Erthgyl 2


Lleihau Risgiau a Diogelwch Cymunedol
Cyfeirnod Dangosydd
FRS/RRC/S/001 Cyfanswm:
(i) y tanau yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth;
(ii) y galwadau ffug yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth;
(iii) y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth;
(iv) y digwyddiadau eraill yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth.
FRS/RRC/S/002 Cyfanswm:
(i) y marwolaethau a’r anafiadau a ddeilliodd o’r holl danau am bob 100,000 o’r boblogaeth;
(ii) y marwolaethau a’r anafiadau a ddeilliodd o danau damweiniol am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Ymateb Effeithiol
Cyfeirnod Dangosydd
FRS/EFR/S/003 (i) Canran y tanau mewn anheddau a gyfyngwyd o fewn yr ystafell lle cychwynnodd y tanau.