
2015 Rhif 539 (Cy. 46)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Dyfrffyrdd) (Cymru) 2015
Gwnaed 4 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 64(3), 65(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988  ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Dyfrffyrdd) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at Canal & River Trust yn gyfeiriad at y cwmni sy’n gofrestredig o dan yr enw hwnnw ar yr adeg y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym.
Hereditamentau dyfrffyrdd
3 

(1) Yn yr achosion a ragnodir ym mharagraff (2) mae’r hereditamentau a fyddai’n fwy nag un hereditament heblaw am y Rheoliadau hyn, yn cael eu trin fel un hereditament.
(2) Yr achosion y mae paragraff (1) yn cyfeirio atynt yw hereditamentau y mae Canal & River Trust yn eu meddiannu, neu os nad ydynt yn cael eu meddiannu, yn berchen arnynt—
(a) sy’n—
(i) dyfrffyrdd (gan gynnwys toriadau a chwlfertau, lociau, clwydi, llifddorau, pympiau, falfiau rhyddhau llif, dyfrffyrdd bwydo, sianelau, coredau, pyllau ochr, ffosydd a draeniau);
(ii) dyfrbontydd, basnau, pontydd, argloddiau, argaeau a thwnelau;
(iii) goleudai, goleufeydd, bwiau, torddyfroedd, lifftiau cychod a strwythurau eraill sydd wedi eu dylunio i hwyluso mordwyaeth;
(iv) dociau, ceiau, pierau, glanfeydd, pontynau, angorfeydd, llithrfeydd, tir ac adeiladau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu a chynnal a chadw badau neu storio badau ar ddŵr, neu ar gyfer darparu, cynnal a chadw neu wasanaethu dyfrffyrdd mewndirol a chyfarpar neu beiriannau a ddefnyddir mewn cysylltiad â hynny;
(v) pyllau clai, tipiau treillio neu dipiau gwaredu gwastraff eraill; neu
(vi) tir, adeiladau neu strwythurau eraill neu rannau o adeiladau neu strwythurau a ddefnyddir i ddarparu neu wasanaethu cyfleusterau ar gyfer mordwyo ar ddyfrffyrdd mewndirol, mynediad y cyhoedd iddynt a’u mwynhad ohonynt, neu at ddibenion ategol; a
(b) nad ydynt yn hereditamentau a eithrir.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr “hereditament a eithrir” yw unrhyw hereditament—
(a) sy’n ymgymeriad doc neu harbwr, neu’n cynnwys ymgymeriad o’r fath, a gynhelir o dan awdurdod a roddir gan unrhyw ddeddfiad, neu oddi tani;
(b) sy’n fangre a roddir ar osod yn y fath fodd fel ei bod yn bosibl ei hasesu ar wahân;
(c) sy’n fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel mangre swyddfa, pan nad yw’r fangre honno wedi ei lleoli ar dir gweithredol Canal & River Trust; neu
(d) sy’n faes parcio a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf mewn cysylltiad â mangre swyddfa, pan nad yw’r fangre honno wedi ei lleoli ar dir gweithredol Canal & River Trust.
(4) Mae’r hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) yn cael ei drin fel hereditament—
(a) a feddiennir gan Canal & River Trust; a
(b) a leolir yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2015