
2015 Rhif 509 (Cy. 43)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015
Made 3 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 19, 187 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 7(3) o Atodlen 2, paragraff 25(3) o Atodlen 3, a pharagraffau 2, 2A, 3 a 4 o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015 ac maent yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.
Diwygio rheoliad 2 o’r prif Reoliadau
3 

(1) Mae rheoliad 2 (dehongli) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw person a gyflogir o dan reoliad 36 i weithredu fel prif weithredwr y Bwrdd CIC;”.
(3) Hepgorer y diffiniadau a ganlyn—“
 “Cyfarwyddwr” (“Director”);
 “Cyngor newydd” (“new Council”);
 “Cyngor sy’n parhau” (“continued Council”).”
(4) Yn y diffiniadau o’r geiriau ac ymadroddion a ganlyn hepgorer “newydd” ym mhob man lle y mae’n digwydd—“
 “pwyllgor cynllunio gwasanaethau” (“services planning committee”);
 “pwyllgor gweithredol” (“executive committee”);
 “pwyllgor lleol” (“local committee”);
 “pwyllgor lleol perthnasol” (“relevantlocalcommittee”).”
Aelodaeth Cynghorau
4 

(1) Mae rheoliad 3 (aelodaeth cynghorau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraff (1) a (3A), caiff Cyngor o bryd i’w gilydd gyfethol pa bynnag aelodau sy’n ymddangos i’r Cyngor yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau a chaniateir penodi’r cyfryw aelodau i eistedd ar unrhyw bwyllgor neu gydbwyllgor y Cyngor hwnnw.”
(3) Yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Ni chaiff aelodau a gyfetholir gan Gyngor yn unol â pharagraff (2) bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion y Cyngor na’i bwyllgorau neu ei gyd-bwyllgorau.”
(4) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraffau (1) a (2), caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, mewn ymateb i gyngor a roddir gan y Bwrdd CIC o dan reoliad 32(2)(f), gyfethol pa bynnag aelodau i Gyngor sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol ar gyfer gwella perfformiad y Cyngor hwnnw, a chaniateir penodi’r cyfryw aelodau i eistedd ar unrhyw bwyllgor neu gyd-bwyllgor y Cyngor hwnnw.
(3B) Caiff aelodau a gyfetholir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3A) bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion y Cyngor a’i bwyllgorau neu ei gyd-bwyllgorau.”
Tymor penodiad aelodau cyfetholedig
5 

(1) Mae rheoliad 5 (tymor penodiad aelodau cyfetholedig) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 5 rhodder—“
5. 
Ni chaniateir penodi aelodau cyfetholedig am gyfnod hwy na dwy flynedd a rhaid peidio â’u hailbenodi fel aelodau cyfetholedig wedi diwedd eu tymor.”
Penodi aelodau gan awdurdodau lleol
6 

(1) Mae rheoliad 6 (penodi aelodau gan awdurdodau lleol) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Rhaid i o leiaf un person a benodir yn unol â’r rheoliad hwn fod yn aelod o’r awdurdod lleol sy’n ei benodi.”
(3) Ym mharagraff (3) ar ôl y geiriau “awdurdod lleol” yn y man cyntaf y maent yn digwydd mewnosoder “o blith ei aelodaeth
Gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau
7 

(1) Mae rheoliad 9 (gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (ch) ar ôl “cymhwysedd” mewnosoder “ac ymddygiad”.
Cod Ymddygiad
8 
Ar ôl rheoliad 9 o’r prif Reoliadau mewnosoder—“
Cod Ymddygiad
9A. 
Wrth gael ei benodi, rhaid i bob aelod a phob aelod cyfetholedig roi ymrwymiad ysgrifenedig i gydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad sy’n gymwys o bryd i’w gilydd i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cyngor yn eu swyddogaeth fel y cyfryw.”
Aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi
9 

(1) Mae rheoliad 10 (aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) yn lle “(2) a (3)” rhodder “(2), (3) a (4)”.
(3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Wrth gyfrifo’r cyfnod o wyth mlynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid diystyru pob cyfnod o wasanaeth fel aelod cyfetholedig.”
Tymor swydd — trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau a benodwyd eisoes ar Gynghorau sy’n parhau
10 
Hepgorer rheoliad 11 o’r prif Reoliadau.
Terfynu aelodaeth ac atal dros dro aelodau
11 

(1) Mae rheoliad 13 (terfynu aelodaeth ac atal dros dro aelodau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod o Gyngor o dan reoliad 3.”
(3) Yn lle paragraff (7) rhodder—“
(7) Ni chaiff Gweinidogion Cymru derfynu nac atal dros dro dymor aelod yn ei swydd o dan y rheoliad hwn heb gael argymhelliad i wneud hynny gan y Bwrdd CIC. Ni chaiff y Bwrdd CIC wneud argymhelliad o’r fath heb fod wedi ymgynghori â’r Cyngor perthnasol ac, os nad Gweinidogion Cymru a benododd yr aelod, y corff a benododd yr aelod.”
Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd
12 

(1) Mae rheoliad 15 (ethol cadeirydd ac is-gadeirydd) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), rhaid i aelodau Cyngor ethol—
(a) un o’u plith i fod yn gadeirydd; a
(b) un o’u plith, heblaw’r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd,
am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf, ond heb fod yn gyfnod hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor swydd yr aelod a etholir fel aelod; a rhaid I’r Prif Swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Bwrdd CIC o enwau’r personau a etholir felly, ar unwaith mewn ysgrifen.”
(3) Ym mharagraff (2) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”.
(4) Hepgorer paragraff (8).
Cymhwyso rheoliadau 17 i 19
13 
Hepgorer rheoliad 16 o’r prif Reoliadau.
Penodi pwyllgorau sydd i’w hadwaen fel Pwyllgorau Lleol
14 

(1) Mae rheoliad 17(1) (penodi pwyllgorau sydd i’w hadwaen fel pwyllgorau lleol) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) hepgorer “wrth rifau 1 i 6”.
Penodi pwyllgorau eraill gan Gyngor
15 

(1) Mae rheoliad 20 (penodi pwyllgorau eraill gan gyngor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid i’r pwyllgor gweithredol benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog pwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.”
(3) Hepgorer paragraff (4).
Penodi cyd-bwyllgorau gan Gyngor
16 

(1) Mae rheoliad 21 (penodi cyd-bwyllgorau gan gyngor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Pan fo Cynghorau’n penodi cyd-bwyllgor, rhaid i bwyllgorau gweithredol pob Cyngor o’r fath sy’n penodi benderfynu gyda’i gilydd gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgorau gweithredol hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.”
(3) Hepgorer paragraff (3).
Swyddogion
17 

(1) Mae rheoliad 23 (swyddogion) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—
(a) i gyflogi person i weithredu fel Prif Swyddog i Gyngor neu i nifer o Gynghorau;
(b) i gyflogi personau i weithredu fel unrhyw swyddogion eraill i Gyngor neu i nifer o Gynghorau ag sy’n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n cael ei chyfarwyddo neu ei gyfarwyddo.”
(3) Yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Caiff personau a gyflogir o dan y rheoliad hwn gynnwys person sydd i’w adnabod fel Dirprwy Brif Swyddog i bwyllgor lleol neu i nifer o bwyllgorau lleol a sefydlir o dan reoliad 17.”
(4) Ym mharagraff (4) ar ôl “Cyngor” mewnosoder “neu’r Cynghorau”.
Cyflawni Swyddogaethau
18 

(1) Mae rheoliad 26 (cyflawni swyddogaethau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Wrth gyflawni ei swyddogaethau rhaid i bob Cyngor roi sylw i unrhyw safonau mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau a osodir gan y Bwrdd CIC.”
Ymgynghori â Chynghorau gan gyrff gwasanaeth iechyd perthnasol
19 

(1) Mae rheoliad 27 (ymgynghori â chynghorau gan gyrff gwasanaeth iechyd perthnasol) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6) ar ôl “yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3)” mewnosoder “, gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”; ym mharagraff (7) ar ôl “caiff” mewnosoder “, gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”; ac, ym mharagraff (9) ar ôl “caiff y Cyngor” mewnosoder “, gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”.
Mynd i mewn i fangreoedd a’u harchwilio
20 

(1) Mae rheoliad 29 (mynd i mewn i fangreoedd a’u harchwilio) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (5) ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “, ac i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”.
Eiriolaeth annibynnol ar gyfer cwynion
21 

(1) Mae rheoliad 31 (eiriolaeth annibynnol ar gyfer cwynion) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl “Gweinidogion Cymru,” mewnosoder “gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”.
Swyddogaethau
22 

(1) Mae rheoliad 32 (swyddogaethau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn effeithiol o 1 Ebrill 2015 ymlaen, bydd gan y Bwrdd CIC y swyddogaethau canlynol—
(a) rhoi cyngor i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau;
(b) gosod safonau i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau, mewn perthynas, yn arbennig—
(i) â darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cwynion,
(ii) â chraffu ar weithrediad y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys archwilio mangreoedd,
(iii) ag ymgysylltu â’r boblogaeth leol o fewn eu dosbarth, Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG,
(iv) â chynhyrchu a chynnwys adroddiadau i Weinidogion Cymru y caniateir eu gwneud o dan reoliad 27(7) a (9);
(c) cynorthwyo Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau;
(ch) cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau ar y cyd gerbron Gweinidogion Cymru;
(d) monitro a rheoli perfformiad Cynghorau a sicrhau bod pob Cyngor yn cymhwyso’r safonau a osodir yn unol â pharagraff (2)(b) mewn modd cyson;
(dd) monitro a rheoli ymddygiad aelodau ac aelodau cyfetholedig a benodir o dan reoliad 3 gyda’r nod o sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad sy’n gymwys i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cyngor yn eu swyddogaeth fel y cyfryw;
(e) monitro ymddygiad a pherfformiad swyddogion a gyflogir o dan reoliad 23;
(f) rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw Gynghorau sy’n methu ym mherfformiad eu swyddogaethau ac yng nghymhwysiad y safonau a osodir yn unol â pharagraff (2)(b);
(ff) rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw aelodau ac aelodau cyfetholedig nad ydynt yn cydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad sy’n gymwys i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cyngor yn eu swyddogaeth fel y cyfryw; a
(g) gweithredu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 33.”
Aelodaeth y Bwrdd CIC
23 

(1) Mae rheoliad 34 (aelodaeth y Bwrdd CIC) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) yn lle “2010” rhodder “2015”.
(3) Yn lle paragraff (1)(a) rhodder—“
(a) saith ohonynt yn bersonau a benodwyd yn gadeiryddion pob un o’r saith Cyngor, un ohonynt i fod yn is-gadeirydd a etholir gan y saith aelod yn gweithredu ar y cyd;”.
(4) Yn lle paragraff (1)(c) rhodder—“
(c) un ohonynt a benodwyd i weithredu fel cadeirydd gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4);”.
(5) Hepgorer paragraff (1)(ch).
(6) Ym mharagraff (1)(d) yn lle “Gyfarwyddwr” rhodder “Brif Weithredwr”.
(7) Ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder—“
(dd) dau ohonynt a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4).”
(8) Yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Rhaid i drefniadau priodol fod wedi eu gwneud ar gyfer dewis a phenodi personau, nad ydynt yn aelodau o Gyngor, yn gadeirydd ac yn aelodau gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1)(c) ac (dd) a rhaid i’r trefniadau hynny gymryd i ystyriaeth—
(a) yr egwyddorion a bennir o bryd i’w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;
(b) y gofyniad bod y dull o ddewis a phenodi aelodau yn agored a thryloyw;
(c) y gofyniad am gystadleuaeth deg ac agored wrth ddewis a phenodi’r ymgeiswyr llwyddiannus.”
(9) Ym mharagraffau (5) a (6) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”.
(10) Ym mharagraff (7)—
(a) yn lle “(ch)” rhodder “(dd)”; a
(b) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “bedair blynedd”.
(11) Ym mharagraff (8), ym mhob man lle y mae’n digwydd, yn lle “Cyfarwyddwr” rhodder “Prif Weithredwr”.
Cymhwyster Aelodau o’r Bwrdd i’w hailbenodi ar y Bwrdd CIC
24 

(1) Mae rheoliad 35 (cymhwyster aelodau o’r bwrdd i’w hailbenodi ar y Bwrdd CIC) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn lle “i (ch)” rhodder “a (b)”; a
(b) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”.
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Caiff aelod o’r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(c) ac (dd) o reoliad 34 wasanaethu am gyfnod o bedair blynedd fan hwyaf.”
(4) Ym mharagraff (2)—
(a) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”; a
(b) yn lle “(ch)” rhodder “(dd)”.
(5) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Wrth gyfrifo’r cyfnod o bedair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1A) rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys pob cyfnod o wasanaeth cyn 1 Ebrill 2010 a phob cyfnod o wasanaeth o ganlyniad i unrhyw benodiad o dan baragraff (1)(a) i (dd) o reoliad 34.”
(6) Ym mharagraff (3), ym mhob man lle y mae’n digwydd, yn lle “Cyfarwyddwr” rhodder “Prif Weithredwr”.
(7) Hepgorer paragraff (4).
Staff Cymorth
25 

(1) Mae rheoliad 36 (staff cymorth) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—
(a) i gyflogi person i weithredu fel Prif Weithredwr y Bwrdd CIC; a
(b) i gyflogi unrhyw bersonau i weithredu fel swyddogion i’r Bwrdd CIC ag sy’n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n cael ei chyfarwyddo neu ei gyfarwyddo.”
(3) Hepgorer paragraff (3).
Cyllid, Cyfrifon ac Indemniad
26 
Yn lle pennawd Rhan VI rhodder—“Cyllid, Cyfrifon ac Indemniad”.
Indemniad
27 
Ar ôl rheoliad 41 (cyfrifon) o’r prif Reoliadau mewnosoder—“
Indemniad
41A. 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru indemnio Cyngor neu’r Bwrdd CIC yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol y mae’n rhesymol yn eu hysgwyddo mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau.
(2) Caiff unrhyw indemniad a roddir fod ar delerau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu.”
Cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy’n penodi
28 

(1) Mae Atodlen 1 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy’n penodi o dan reoliad 3) i’r prif Reoliadau wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 1 yn lle eitem 7 rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Powys”.
(3) Yng ngholofnau 2 a 3 yn lle eitem 7 rhodder “6”.
(4) Yng ngholofn 4 yn lle eitem 7 rhodder “12”.
(5) Hepgorer eitem 8.
Cynghorau Iechyd Cymuned ac Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir Pwyllgorau Lleol iddynt
29 

(1) Mae Atodlen 2 (cynghorau iechyd cymuned ac ardaloedd awdurdod lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac, mewn perthynas â chynghorau newydd, y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt) i’r prif Reoliadau wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r pennawd rhodder—“
Cynghorau Iechyd Cymuned ac Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir Pwyllgorau Lleol iddynt”.
(3) Yn lle pennawd colofn 2 rhodder—“Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt”.
(4) Yng ngholofn 1 yn lle eitem 7 rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Powys”.
(5) Yng ngholofn 2 yn lle eitem 7 rhodder—“
(i) Dosbarth Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog sy’n ffurfio rhan o Brif Ardal Llywodraeth Leol Powys
(ii) Dosbarth Sir Drefaldwyn sy’n ffurfio rhan o Brif Ardal Llywodraeth Leol Powys gan gynnwys cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn”.
(6) Hepgorer eitem 8.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2015