
2015 Rhif 484 (Cy. 41)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
Gwnaed 3 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 17, 19(3) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.
Dirymu a darpariaeth drosiannol
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a bennir yn y golofn gyntaf o’r tabl yn Atodlen 1 wedi eu dirymu i’r graddau a ddynodir yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 1.
(2) Rhaid trin person a oedd, yn union cyn 1 Ebrill 2015, yn ymgymryd â chyfnod sefydlu yn unol â Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”), fel pe bai o’r dyddiad hwnnw, yn ymgymryd â chyfnod sefydlu yn unol â’r Rheoliadau hyn, a rhaid trin unrhyw beth a wnaed o dan Reoliadau 2005 fel pe bai wedi ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.
Dehongli
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;
 ystyr “athro neu athrawes gyflenwi” (“supply teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion goruchwylio neu addysgu disgyblion nad yw eu hathro neu athrawes reolaidd ar gael i’w haddysgu;
 ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy’n bodloni’r gofynion sydd wedi’u pennu mewn rheoliadau sydd wedi’u gwneud o dan adran 132 o Ddeddf 2002;
 ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
 mae “blwyddyn ysgol” (“school year”) yn cynnwys blwyddyn academaidd coleg AB;
 ystyr “coleg AB” (“FE college”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach yn unol â’r diffiniad yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 mae i “corff llywodraethu” mewn perthynas â choleg AB yr un ystyr ag sydd i “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw’r corff priodol o dan reoliad 5;
 ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw awdurdod, corff llywodraethu neu berson arall sy’n cymryd person ymlaen, neu’n gwneud trefniadau i’w gymryd ymlaen, i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes o dan gontract cyflogaeth, neu rywfodd arall ac eithrio o dan gontract 
 
cyflogaeth, a rhaid dehongli “cyflogedig” (“employed”) a “cyflogaeth” (“employment”) ac unrhyw ymadroddion sy’n ymwneud â therfynu cyflogaeth yn unol â hynny;
 mae i “cyfnod allweddol” yr ystyr a roddir i “key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002;
 ystyr “cyfnod sefydlu” (“induction period”) yw cyfnod sefydlu sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg;
 ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) mewn perthynas ag ysgol yw unrhyw ddiwrnod pan fydd sesiwn ysgol yn yr ysgol honno, ac mewn perthynas â choleg AB unrhyw ddiwrnod pan fydd y coleg yn cyfarfod;
 mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth coleg AB;
 ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;
 ystyr “Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol” (“the School Teachers’ Qualifications Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2012;
 ystyr “Rheoliadau Sefydlu Lloegr” (“England’s Induction Regulations”) yw rheoliadau a wneir o bryd i’w gilydd o dan adran 135A o Ddeddf 2002 mewn perthynas ag athrawon yn Lloegr;
 ystyr “sefydliad” (“institution”) yw ysgol berthnasol, ysgol annibynnol neu goleg AB lle y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu o dan y Rheoliadau hyn, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;
 mae i “sesiwn ysgol” (“school session”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003;
 mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys tymor coleg AB;
 mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 1996;
 ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nad yw’n ysgol arbennig gymunedol nac yn ysgol arbennig sefydledig;
 ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol sy’n cael ei chynnal gan awdurdod neu ysgol arbennig nas cynhelir.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi cwblhau cyfnod sefydlu pan fydd y person hwnnw wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu o—
(a) tri thymor ysgol; neu
(b) o unrhyw hyd arall a benderfynir yn unol â rheoliad 8(4) (gan gynnwys, yn unig, gyfnodau o gyflogaeth sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu o dan reoliad 9); ac
os yw’r corff priodol yn estyn y cyfnod sefydlu yn unol â rheoliad 10, cyfnod yr estyniad hwnnw.
Torri terfynau amser
4 
Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.
Corff priodol
5 

(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) y corff priodol mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir (ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998) yw’r awdurdod sy’n ei chynnal;
(b) y corff priodol mewn perthynas ag ysgol arbennig nas cynhelir yw’r awdurdod ar gyfer yr ardal y mae’r ysgol wedi’i lleoli ynddi;
(c) y corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol yw—
(i) awdurdod, neu
(ii) pa bynnag bersonau neu gorff a benderfynir gan Weinidogion Cymru, a rhaid i’r personau hynny neu’r corff hwnnw gynnwys, fel aelod, gynrychiolydd awdurdod, a
(d) y corff priodol mewn perthynas â choleg AB yw awdurdod.
(2) Mae unrhyw gwestiwn ynglŷn â pha un yw’r corff priodol at y diben o arfer unrhyw swyddogaethau a osodir ar gorff priodol neu a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, mewn achos lle mae person yn ymgymryd â’i gyfnod sefydlu mewn mwy nag un sefydliad, i gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.
Gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu
6 
Yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn Atodlen 2, ni chaniateir cyflogi neb ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol onid yw’r person hwnnw wedi cwblhau’n foddhaol gyfnod sefydlu yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Sefydliadau y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu ynddynt
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn y canlynol yn unig y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu—
(a) ysgol berthnasol yng Nghymru ac eithrio ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig a sefydlwyd mewn ysbyty; neu
(b) yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (3), ysgol annibynnol yng Nghymru; neu
(c) yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (4), coleg AB yng Nghymru; neu
(d) ysgol neu goleg AB yn Lloegr lle y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr.
(2) Ni cheir ymgymryd â chyfnod sefydlu yn y canlynol—
(a) ysgol yng Nghymru y mae’r amgylchiadau a ddisgrifir yn seiliau 6 neu 8 yn adran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gymwys mewn perthynas â hi, oni bai—
(i) bod y person o dan sylw wedi dechrau ei gyfnod sefydlu neu wedi’i gyflogi fel athro neu athrawes raddedig neu athro neu athrawes gofrestredig neu ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn yr ysgol ar adeg pan nad oedd amgylchiadau o’r fath yn gymwys, neu
(ii) bod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi ardystio yn ysgrifenedig ei fod yn fodlon bod yr ysgol yn addas at ddibenion darparu goruchwyliaeth a hyfforddiant sefydlu, neu
(b) uned cyfeirio disgyblion.
(3) Yr amgylchiadau pan gaiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol annibynnol yw’r canlynol—
(a) yn achos person a gyflogir i addysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol tri neu bedwar, bod cwricwlwm yr ysgol ar gyfer disgyblion y cyfnodau allweddol hynny yn cynnwys yr holl bynciau craidd a’r holl bynciau sylfaen eraill a bennwyd mewn perthynas â chyfnodau allweddol tri a phedwar yn adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002, y cyflogir y person hwnnw i’w haddysgu; a
(b) ym mhob achos, bod y cwricwlwm ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig yng nghyfnodau allweddol un a dau yn bodloni gofynion adran 105(1) o Ddeddf 2002 (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru), ac eithrio mewn perthynas â threfniadau asesu; ac
(c) ym mhob achos, cyn dechrau’r cyfnod sefydlu, bod perchennog yr ysgol a naill ai awdurdod neu’r personau neu’r corff a benderfynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5(1)(c) wedi cytuno bod yr awdurdod neu’r personau neu’r corff, yn ôl fel y digwydd, i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â’r ysgol.
(4) Ni chaiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn coleg AB yng Nghymru oni fydd corff llywodraethu’r coleg ac awdurdod wedi cytuno, cyn dechrau’r cyfnod sefydlu, fod yr awdurdod i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â’r coleg.
(5) Ni chaiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn dau neu ragor o sefydliadau yr un pryd oni fydd penaethiaid yr holl sefydliadau wedi cytuno, cyn i’r cyfnod sefydlu ddechrau, pa un ohonynt sydd i weithredu fel y pennaeth arweiniol.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae “cyfnod sefydlu” (“induction period”) yn cynnwys rhan o gyfnod sefydlu.
Hyd cyfnod sefydlu
8 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), tri thymor ysgol fydd hyd cyfnod sefydlu (“y rheol tri thymor”).
(2) At y diben o gyfrifo hyd y cyfnod sefydlu, caiff tymor ysgol fod naill ai’n un tymor ysgol neu’n ddau hanner tymor sydd (gan ddiystyru gwyliau) yn digwydd yn olynol.
(3) Nid yw’r rheol tri thymor yn gymwys yn yr amgylchiadau canlynol—
(a) pan ymgymerir â’r cyfnod sefydlu mewn sefydliad lle nad yw’r flwyddyn ysgol yn cynnwys tri thymor ysgol;
(b) pan ymgymerir â chyfnod sefydlu gan berson mewn gwasanaeth rhan-amser;
(c) pan ymgymerir â chyfnod sefydlu mewn dau neu ragor o sefydliadau ar yr un pryd;
(d) pan fo unrhyw gyfnodau o gyflogaeth sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu yn cynnwys cyfnod o lai nag un tymor ysgol; neu
(e) pan nad yw’n briodol, ym marn y corff priodol, i’r rheol tri thymor fod yn gymwys.
(4) Hyd y cyfnod sefydlu pan nad yw’r rheol tri thymor yn gymwys yw—
(a) pan fo paragraff (3)(d) yn gymwys, 380 o sesiynau ysgol; a
(b) ym mhob achos arall, y cyfryw hyd a benderfynir gan y corff priodol, ar yr amod nad yw’r cyfnod hwnnw’n llai na chyfwerth â 380 o sesiynau ysgol neu 3 thymor ysgol.
Cyfnodau o gyflogaeth sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu
9 

(1) Yr unig gyfnodau o gyflogaeth fel athro neu athrawes gymwysedig ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Ebrill 2015 sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu yw’r canlynol—
(a) cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo nad yw’n llai nag un tymor ysgol o ran ei hyd;
(b) cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo neu iddynt o ddau hanner tymor ysgol sydd (gan ddiystyru gwyliau) yn digwydd yn olynol;
(c) yn achos athro neu athrawes unigol, cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddynt o unrhyw hyd arall, sy’n briodol ym marn y corff priodol; neu
(d) cyfnod o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg AB yn Lloegr os byddai’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr.
(2) Yr unig gyfnodau o gyflogaeth fel athro neu athrawes gymwysedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu yw’r canlynol—
(a) cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo nad yw’n llai nag un sesiwn ysgol o ran ei hyd;
(b) cyfnod o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg AB yn Lloegr os byddai’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr.
Estyn cyfnod sefydlu cyn ei gwblhau
10 

(1) Pan fo person sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn absennol o’r gwaith am gyfnod cyfanredol o ddeg ar hugain neu fwy o ddiwrnodau ysgol, caiff y corff priodol estyn y cyfnod sefydlu, o gyfnod cyfanredol yr absenoldebau neu o unrhyw gyfnod llai sy’n briodol ym marn y corff priodol.
(2) Os estynnir cyfnod sefydlu o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr ac os digwydd i’r person sy’n ymgymryd â’r cyfnod sefydlu symud i gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru, rhaid trin y cyfnod sefydlu fel pe bai wedi’i estyn o dan y rheoliad hwn.
(3) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwn ni cheir estyn cyfnod sefydlu cyn ei gwblhau.
Ymgymryd â rhagor nag un cyfnod sefydlu
11 
Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 13 neu 16, ni chaiff neb ymgymryd â mwy nag un cyfnod sefydlu.
Goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod sefydlu
12 

(1) Bydd pennaeth sefydliad yng Nghymru lle mae person yn ymgymryd â chyfnod sefydlu yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi’r person hwnnw o ddydd i ddydd.
(2) Y corff priodol mewn perthynas â sefydliad sy’n gyfrifol yn gyffredinol am oruchwyliaeth a hyfforddiant person sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn y sefydliad hwnnw.
(3) Rhaid i’r oruchwyliaeth a’r hyfforddiant o dan baragraff (2) gynnwys goruchwylio a hyfforddi gan berson sydd â gwybodaeth o’r safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.
Cwblhau cyfnod sefydlu
13 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd person wedi cwblhau cyfnod sefydlu—
(a) os yw’r person hwnnw’n cael ei gyflogi mewn sefydliad yng Nghymru pan gwblheir y cyfnod sefydlu; neu
(b) os yw sefydliad y pennaeth arweiniol yng Nghymru, pan gwblheir cyfnod sefydlu a ymgymerwyd mewn dau neu ragor o sefydliadau yr un pryd.
(2) O fewn y cyfnod o ugain diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cwblhawyd y cyfnod sefydlu rhaid i’r corff priodol benderfynu—
(a) pa un ai yw’r person a gwblhaodd y cyfnod sefydlu wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014 ac felly wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol;
(b) pa un ai y dylid estyn y cyfnod sefydlu o ba bynnag gyfnod a benderfynir gan y corff priodol; neu
(c) pa un ai yw’r person hwnnw wedi methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol.
(3) Rhaid i’r corff priodol, cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (2), roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gaiff gan y person sydd dan sylw.
(4) Rhaid i’r corff priodol, o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod y gwnaeth penderfyniad o dan baragraff (2)—
(a) anfon hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad at—
(i) y person dan sylw,
(ii) yn achos ysgol perthnasol neu goleg AB, corff llywodraethu’r ysgol neu’r coleg lle y cyflogir y person hwnnw,
(iii) yn achos ysgol annibynnol, y perchennog,
(iv) pennaeth y sefydliad lle y cyflogid y person yn ymgymryd â chyfnod sefydlu pan gwblhawyd y cyfnod sefydlu,
(v) os na chyflogir y person hwnnw gan y corff priodol, cyflogwr y person (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysid o dan baragraff (ii) neu (iii)), a
(vi) y Cyngor, a
(b) os gwnaeth y corff priodol benderfyniad sy’n dod o fewn paragraff (2)(b) neu (c), anfon at y person dan sylw hysbysiad ysgrifenedig o’r canlynol—
(i) ei hawl i apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad,
(ii) y manylion cyswllt (gan gynnwys y cyfeiriad) ar gyfer apelio i’r Cyngor,
(iii) y cyfnod o amser a ganiateir ar gyfer apelio.
(5) Ceir rhoi hysbysiad i berson o dan baragraffau (2) a (4) drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.
Estyn cyfnod sefydlu yn unol â phenderfyniad gan y corff priodol neu’r Cyngor
14 

(1) Mae rheoliadau 7, 9 i 13, 15 ac 16 ac Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu a estynnwyd wedi iddo gael ei gwblhau drwy benderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 13 neu drwy benderfyniad gan y Cyngor o dan reoliad 16, fel y mae’r darpariaethau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sefydlu cychwynnol.
(2) Mae rheoliadau 7, 9 i 13, 15 ac 16 ac Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu a estynnwyd wedi iddo gael ei gwblhau, o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr os yw’r person hwnnw wedyn yn cael ei gyflogi mewn sefydliad yng Nghymru, fel y mae’r darpariaethau hynny yn gymwys mewn perthynas â chyfnod sefydlu cychwynnol.
Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol
15 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru ac sydd wedi methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol, pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr.
(2) Rhaid i gyflogwr person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sicrhau y terfynir cyflogaeth y person hwnnw fel athro neu athrawes—
(a) os nad yw’r person hwnnw’n apelio i’r Cyngor yn erbyn penderfyniad y corff priodol; neu
(b) os gwrthodir apêl y person hwnnw i’r Cyngor neu i’r corff apelio o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr.
(3) Rhaid i gyflogwr gymryd y camau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person, a derfynir o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2)(a), yn cael ei therfynu fel bod y terfynu yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad—
(a) y cafodd y cyflogwr hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth berson o’r fath nad oedd ganddo fwriad i apelio i’r Cyngor; neu
(b) y daeth yr amser a ganiateid ar gyfer apelio gan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i ben.
(4) Rhaid i gyflogwr gymryd y camau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person, a derfynir o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) yn cael ei therfynu fel bod y terfynu yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad pan gafodd y cyflogwr hysbysiad o ganlyniad gwrandawiad yr apêl.
(5) Nid oes rhwymedigaeth ar gyflogwr person—
(a) y mae paragraff (1) yn gymwys iddo; a
(b) sy’n apelio i’r Cyngor yn erbyn penderfyniad y corff priodol neu sy’n apelio i’r corff apelio o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr,
i sicrhau y terfynir cyflogaeth person o’r fath fel athro neu athrawes tra arhosir am ganlyniad yr apêl, ar yr amod bod y cyflogwr yn sicrhau mai dyletswyddau addysgu cyfyngedig yn unig, y penderfynir arnynt gan Weinidogion Cymru, a ymgymerir yn y cyfamser gan y person hwnnw.
Apelau
16 

(1) Mae Atodlen 3 yn cael effaith mewn perthynas ag apelau o dan adran 19(1) of the 2014 Act.
(2) Pan fo person yn apelio yn erbyn penderfyniad gan gorff priodol o dan reoliad 13 i estyn cyfnod sefydlu yn cael ei estyn , caiff y Cyngor—
(a) caniatáu’r apêl;
(b) gwrthod yr apêl; neu
(c) pennu estyniad am gyfnod gwahanol.
(3) Pan fo person yn apelio yn erbyn penderfyniad gan gorff priodol o dan reoliad 13, fod person wedi methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol, caiff y Cyngor—
(a) caniatáu’r apêl;
(b) gwrthod yr apêl; neu
(c) estyn y cyfnod sefydlu i’r person hwnnw fel y gwêl y Cyngor yn dda.
Swyddogaethau eraill y corff priodol
17 
Caiff y corff priodol, mewn cysylltiad â hyfforddi, goruchwylio ac asesu sefydlu o dan y Rheoliadau hyn, ddarparu—
(a) canllawiau, cefnogaeth a chymorth i ysgolion a cholegau AB; a
(b) hyfforddiant i athrawon.
Codi tâl
18 
Caiff corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol neu goleg AB godi tâl rhesymol (nad yw’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth) ar gorff llywodraethu ysgol neu goleg AB y mae’n gorff priodol iddynt, mewn cysylltiad ag unrhyw un o swyddogaethau’r corff priodol o dan y Rheoliadau hyn.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2015
ATODLEN 1
RHEOLIADAU A DDIDDYMIR
Rheoliad 2


Rheoliadau a ddiddymir Cyfeiriadau Graddau’r diddymu
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 O.S. 2005/1818 (Cy. 146) Yn llwyr
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 O.S. 2007/2811 (Cy. 238) Rheoliad 3
Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 O.S. 2012/724 (Cy. 96) Rheoliad 10
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012 O.S. 2012/1675 (Cy. 216) Yn llwyr
ATODLEN 2
Achosion pan geir cyflogi person fel Athro neu Athrawes mewn ysgol berthnasol pan nad yw wedi cwblhau Cyfnod Sefydlu yn foddhaol
Rheoliad 6
1 
Person a oedd, ar 1 Ebrill 2003 yn athro neu athrawes gymwysedig.
2 
Person sydd—
(a) yn ymgymryd â chyfnod sefydlu (gan gynnwys cyfnod sefydlu a estynnwyd cyn ei gwblhau o dan reoliad 10 neu ar ôl ei gwblhau o dan reoliad 13 neu 16); neu
(b) wedi cwblhau cyfnod sefydlu o’r fath ac a gyflogir i weithio fel athro neu athrawes tra arhosir am benderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 13 o’r Rheoliadau hyn neu reoliad 15 o Reoliadau Sefydlu Lloegr.
3 
Person a fethodd â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol ac y cyfyngir ar ei gyflogaeth o dan reoliad 15(5) tra arhosir am ganlyniad apêl.
4 
Person sy’n athro neu athrawes ysgol yn yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(5) o Ddeddf 2002.
5 
Person sydd wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr.
6 
Person a gofrestrwyd yn llawn, neu sy’n gymwys i gael ei gofrestru’n llawn, fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
7 
Person—
(a) sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y cyfnod sefydlu ar gyfer addysg athrawon yng Ngogledd Iwerddon; neu
(b) a gyflogid fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon ar unrhyw adeg cyn cyflwyno’r cyfnod sefydlu yn hyfforddiant athrawon yng Ngogledd Iwerddon.
8 
Person sydd, mewn perthynas â phroffesiwn athro neu athrawes ysgol yn dod o fewn Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007, fel y’u hestynnwyd gan Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y’i haddaswyd gan y protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, ac fel y’i diwygiwyd gan y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau ar y naill law a’r Cydffederasiwn Swisaidd ar y llall, ar Ryddid Personau i Symud, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.
9 
Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.
10 
Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus Raglen Sefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.
11 
Person a gymeradwywyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gyfnod sefydlu ar gyfer athrawon.
12 
Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gyfnod sefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.
13 
Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus Raglen Sefydlu Ysgolion Addysg Plant y Lluoedd Arfog yn yr Almaen neu yng Nghyprus.
14 
Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003—
(a) yn gyflogedig fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a
(b) naill ai—
(i) wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion, mewn sefydliad addysgol yn yr Alban, neu
(ii) wedi’i gofrestru fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
15 
Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003—
(a) yn gyflogedig fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a
(b) naill ai—
(i) wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion, mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon, neu
(ii) y dyfarnwyd i’r person hwnnw gadarnhad o’i gydnabod fel athro neu athrawes mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon, a’r cadarnhad hwnnw heb ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg ar ôl ei ddyfarnu.
16 
Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.
17 
Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 13 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.
18 
Person y ceir ei gyflogi o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr, pan nad yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol.
19 
Person sydd—
(a) wedi cwblhau’n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol ar gyfer athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac a gydnabyddir felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;
(b) â dim llai na dwy flynedd o brofiad o addysgu amser-llawn, neu brofiad cyfatebol, yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall;
(c) yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny, neu yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 9 neu 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny, neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny; a
(d) naill ai—
(i) wedi bodloni’n llwyddiannus gyfnod o brofiad proffesiynol yn dilyn hyfforddiant proffesiynol (cymaradwy â chyfnod sefydlu yng Nghymru), mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a gydnabyddir fel y cyfryw gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno, neu
(ii) yr aseswyd ei fod yn bodloni’r safonau a benderfynwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2014 gan sefydliad a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
20 
Person sydd—
(a) yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny ac, yn y naill achos neu’r llall, a ddaeth yn athro neu athrawes gymwysedig o’r fath drwy fodloni gofynion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, rywfodd ac eithrio drwy gwblhau’n llwyddiannus gyfnod o hyfforddiant ar y cynllun; a
(b) yr aseswyd ei fod yn bodloni’r safonau a benderfynwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2014 gan sefydliad a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
ATODLEN 3
Y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad gan y corff priodol
Rheoliad 16
Dehongli
1 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy’n dwyn apêl o dan adran 19(1) o Ddeddf 2014 yn erbyn penderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 13;
 ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw’r corff priodol a wnaeth y penderfyniad sy’n destun apêl;
 ystyr “penderfyniad a herir” (“disputed decision”) yw’r mater y mae’r apelydd yn apelio i’r Cyngor mewn perthynas ag ef; ac
 ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw’r person a benodir gan y Cyngor i gyflawni dyletswyddau swyddog priodol o dan yr Atodlen hon.
Y dull a’r amser a ganiateir ar gyfer apelio
2 

(1) Rhaid gwneud apêl drwy anfon hysbysiad o apêl at y swyddog priodol, fel bod yr hysbysiad o apêl yn cyrraedd o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 13(4) o’r penderfyniad a herir.
(2) Caiff y Cyngor estyn y terfyn amser a bennir gan is-baragraff (1), pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir wedi dod i ben ai peidio, ond rhaid i’r Cyngor beidio â gwneud hynny oni fodlonir ef y byddai peidio ag estyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.
(3) Os yw’r apelydd yn credu y bydd hysbysiad o apêl yn debygol o gyrraedd y tu allan i’r terfyn amser a bennir gan is-baragraff (1), caiff gyflwyno, gyda’r hysbysiad o apêl, ddatganiad o’r rhesymau y dibynnir arnynt i gyfiawnhau’r oedi a rhaid i’r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o’r fath wrth benderfynu a ddylid estyn y terfyn amser ai peidio.
Yr hysbysiad o apêl
3 

(1) Rhaid i’r hysbysiad o apêl ddatgan—
(a) enw a chyfeiriad yr apelydd;
(b) enw a chyfeiriad yr ysgol y cyflogid yr apelydd ynddi ar ddiwedd y cyfnod sefydlu;
(c) enw a chyfeiriad cyflogwr yr apelydd, os oes un, ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o apêl at y Cyngor;
(d) seiliau’r apêl;
(e) enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os oes un) sy’n cynrychioli’r apelydd, a pha un ai dylai’r Cyngor anfon dogfennau sy’n ymwneud â’r apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at yr apelydd; ac
(f) pa un ai yw’r apelydd yn gofyn am i’r apêl gael ei phenderfynu mewn gwrandawiad llafar.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o apêl gael ei lofnodi gan yr apelydd.
(3) Rhaid i’r apelydd atodi copïau o’r canlynol ynghlwm wrth yr hysbysiad o apêl—
(a) yr hysbysiad a roddwyd i’r apelydd gan y corff priodol o dan reoliad 13(4) mewn perthynas â’r penderfyniad a herir;
(b) unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau dros ei benderfyniad; ac
(c) pob dogfen arall y mae’r apelydd yn dibynnu arni at ddibenion yr apêl.
Dogfennau ychwanegol, diwygio’r apêl a thynnu’r apêl yn ôl
4 

(1) Ar unrhyw adeg cyn cael hysbysiad o’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11, caiff yr apelydd—
(a) anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae’n dymuno dibynnu arnynt at ddibenion yr apêl at y swyddog priodol;
(b) diwygio neu dynnu’n ôl yr apêl, neu unrhyw ran ohoni; neu
(c) diwygio unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i ategu’r apêl neu ei dynnu yn ôl.
(2) Ar unrhyw adeg, caiff yr apelydd gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.
(3) Os yw apelydd yn tynnu apêl yn ôl, ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â’r penderfyniad a herir.
(4) Ceir diwygio apêl neu dynnu yn ôl drwy anfon at y swyddog priodol hysbysiad apêl diwygiedig, neu hysbysiad sy’n datgan bod yr apêl yn cael ei thynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd.
Cydnabod yr apêl a hysbysu yn ei chylch
5 

(1) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith, sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor yr hysbysiad o’r apêl, rhaid i’r swyddog priodol—
(a) anfon at yr apelydd gydnabyddiaeth o gael yr apêl;
(b) anfon copi o’r hysbysiad o apêl ac unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm wrtho at y corff priodol;
(c) os enwir unrhyw berson neu gorff ac eithrio’r corff priodol fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad o apêl, anfon copi o’r hysbysiad o apêl at y person neu’r corff hwnnw; a
(d) anfon copi o’r hysbysiad o apêl at bennaeth yr ysgol neu’r coleg AB lle y cyflogid yr apelydd pan gwblhawyd y cyfnod sefydlu.
(2) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor gan yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, seiliau diwygiedig dros apelio, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu’r apêl, neu hysbysiad bod apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r swyddog priodol anfon copïau at y corff priodol.
Cais am ragor o ddeunydd
6 

(1) Os yw’r Cyngor o’r farn y gellid penderfynu’r apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai’r apelydd yn darparu rhagor o ddeunydd, caiff anfon hysbysiad at yr apelydd sy’n ei wahodd i gyflenwi’r deunydd o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad.
(2) Pan fo’r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i’r swyddog priodol, ar yr un pryd, hysbysu’r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.
(3) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor ragor o ddeunydd o dan is-baragraff (1) rhaid i’r swyddog priodol anfon copi ohono at y corff priodol.
Ateb gan y corff priodol
7 

(1) Rhaid i’r corff priodol anfon ateb at y swyddog priodol sy’n bodloni gofynion paragraff 8, fel bod yr ateb hwnnw’n cyrraedd o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y corff priodol gopi o’r hysbysiad o apêl.
(2) Caiff y Cyngor estyn y terfyn amser a bennir gan is-baragraff (1), pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir wedi dod i ben ai peidio.
(3) Rhaid i’r Cyngor ganiatáu’r apêl os yw’r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg, nad yw’n bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir, a rhaid i’r Cyngor wneud hynny o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir.
Cynnwys yr ateb
8 

(1) Rhaid i’r ateb ddatgan—
(a) enw a chyfeiriad y corff priodol;
(b) pa un ai yw’r corff priodol yn bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir ai peidio; ac
(c) mewn achosion pan fo’r corff priodol yn bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir—
(i) ateb y corff priodol i bob un o’r seiliau dros yr apêl a roddwyd gan yr apelydd,
(ii) pa un ai yw’r corff priodol yn gwneud cais am wrandawiad llafar ai peidio, a
(iii) enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os oes un) sy’n cynrychioli’r corff priodol, a pha un ai ddylai’r Cyngor anfon dogfennau sy’n ymwneud â’r apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at y corff priodol.
(2) Rhaid i’r corff priodol atodi copïau o’r canlynol ynghlwm wrth yr ateb—
(a) unrhyw ddogfen y mae’n dymuno dibynnu arni at ddibenion gwrthwynebu’r apêl; a
(b) os nad yw’r apelydd wedi anfon at y swyddog priodol gopi o ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau dros benderfyniad y corff priodol, ddatganiad sy’n rhoi rhesymau dros y penderfyniad.
Dogfennau ychwanegol, diwygio’r ateb a thynnu’r ateb yn ôl
9 

(1) Ar unrhyw adeg cyn iddo gael hysbysiad o’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11, caiff y corff priodol—
(a) anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae’n dymuno dibynnu arnynt at ddibenion gwrthwynebu’r apêl at y swyddog priodol;
(b) diwygio ei ateb neu dynnu ei ateb, neu unrhyw ran ohono, yn ôl;
(c) diwygio unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i ategu’r ateb neu ei dynnu yn ôl.
(2) Ar unrhyw adeg caiff y corff priodol gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.
(3) Ceir diwygio ateb neu dynnu yn ôl drwy anfon at y swyddog priodol ateb diwygiedig, neu hysbysiad sy’n datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd.
Cydnabod yr ateb a hysbysu yn ei gylch
10 

(1) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor yr ateb, rhaid i’r swyddog priodol—
(a) anfon at y corff priodol gydnabyddiaeth o gael yr ateb; a
(b) anfon copi o’r ateb ac unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm wrtho at yr apelydd.
(2) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor gan y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu’n ôl, rhaid i’r swyddog priodol anfon copïau at yr apelydd.
Pŵer i benderfynu’r apêl heb wrandawiad
11 

(1) Ar ôl diwedd y cyfnod pan yw’n ofynnol bod y corff priodol yn anfon ei ateb, os nad yw’r apelydd na’r corff priodol wedi gwneud cais am wrandawiad llafar ac nad yw’r Cyngor o’r farn bod angen gwrandawiad llafar, caiff y Cyngor benderfynu’r apêl heb wrandawiad llafar.
(2) Ar ôl diwedd y cyfnod pan yw’n ofynnol bod y corff priodol yn anfon ei ateb, os nad yw’r corff priodol wedi gwneud hynny, caiff y Cyngor ganiatáu’r apêl heb wrandawiad llafar.
(3) Os yw’r Cyngor yn penderfynu’r apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o’i benderfyniad fel sy’n ofynnol gan baragraff 17, fel bod yr hysbysiad yn cyrraedd yr apelydd a’r corff priodol o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod a ganiateid ar gyfer anfon ateb i ben.
Gwrandawiad apêl
12 
Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys os penderfynir apêl ar sail gwrandawiad llafar.
Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad
13 

(1) Rhaid i’r Cyngor bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad—
(a) o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod a ganiateid ar gyfer anfon ateb i ben; a
(b) nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben.
(2) Ar yr un diwrnod ag y pennir dyddiad gan y Cyngor ar gyfer y gwrandawiad, rhaid i’r swyddog priodol anfon at yr apelydd a’r corff priodol hysbysiad—
(a) yn eu hysbysu ynghylch amser a lleoliad gwrandawiad yr apêl;
(b) yn rhoi canllawiau ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys yn y gwrandawiad;
(c) yn eu hysbysu ynghylch canlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; a
(d) yn eu hysbysu bod hawl ganddynt i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.
(3) Ni chaiff y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn gynharach na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.
Y camau sydd i’w cymryd gan yr apelydd a’r corff priodol ar ôl cael yr hysbysiad am y gwrandawiad
14 

(1) Rhaid i’r apelydd a’r corff priodol, ddim llai na deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad—
(a) rhoi gwybod i’r swyddog priodol pa un ai ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad ai peidio;
(b) rhoi gwybod i’r swyddog priodol pa dystion, os oes rhai, y bwriadant eu galw yn y gwrandawiad; ac
(c) os nad ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad, cânt anfon at y swyddog priodol unrhyw sylwadau ysgrifenedig i ategu’r deunydd a anfonwyd eisoes at y swyddog priodol.
(2) O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae’r swyddog priodol yn cael unrhyw sylwadau, rhaid iddo anfon, at bob parti neu’r llall, gopïau o unrhyw sylwadau a gaiff gan y parti arall o dan y paragraff hwn.
Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad
15 

(1) Caiff y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau sydd ym marn y Cyngor yn briodol, ar yr amod nad yw’r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na’r dyddiad gwreiddiol.
(2) Os yw’r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad, rhaid i’r swyddog priodol, yn ddi-oed ond beth bynnag o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y gwnaed y newid, anfon hysbysiad o’r newid at yr apelydd a’r corff priodol.
Y weithdrefn yn y gwrandawiad
16 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, rhaid i’r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.
(2) Rhaid cynnal gwrandawiad yr apêl yn gyhoeddus oni fydd y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg a rhesymol cynnal y gwrandawiad neu unrhyw ran ohono yn breifat.
(3) Caiff yr apelydd a’r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.
(4) Os yw’r apelydd neu’r corff priodol yn methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad, caiff y Cyngor glywed yr apêl yn absenoldeb y parti hwnnw ac, ar yr amod bod y Cyngor wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti hwnnw o dan baragraff 14, penderfynu’r apêl.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), caiff yr apelydd a’r corff priodol roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dystion ac annerch y Cyngor, ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar bwnc yr apêl.
(6) Ar unrhyw adeg yn ystod y gwrandawiad, caiff y Cyngor gyfyngu ar hawliau’r naill barti neu’r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod y bodlonir y Cyngor na fydd gwneud hynny yn rhwystro penderfynu’r apêl yn deg.
(7) Caiff y Cyngor ohirio’r gwrandawiad, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni fydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn penderfynu’r apêl yn deg.
(8) Rhaid naill ai cyhoeddi amser a lleoliad gwrandawiad gohiriedig cyn ei ohirio neu rhaid i’r Cyngor, yn ddi-oed, ond beth bynnag o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda dyddiad y gohirio, anfon hysbysiad o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig at yr apelydd a’r corff priodol.
Penderfyniad y Cyngor
17 

(1) Ceir gwneud a chyhoeddi penderfyniad y Cyngor ar ddiwedd y gwrandawiad ond, ym mhob achos, pa un ai gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi’r penderfyniad yn union ar ôl ei wneud, a hynny mewn dogfen y mae’n rhaid iddi gynnwys yn ogystal ddatganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad ac y mae’n rhaid ei llofnodi a’i dyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.
(2) O fewn y cyfnod o bum diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad, rhaid i’r Cyngor—
(a) anfon copi o’r ddogfen y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) at yr apelydd, y corff priodol a phennaeth yr ysgol neu’r coleg AB lle y cyflogid yr apelydd pan gwblhawyd y cyfnod sefydlu ei gwblhau; a
(b) os enwyd person neu gorff ac eithrio’r corff priodol fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad o apêl, hysbysu’r corff neu’r person hwnnw o’i benderfyniad.
Afreoleidd-dra
18 

(1) Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy’n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r Atodlen hon cyn bo’r Cyngor yn cyrraedd ei benderfyniad yn peri, ynddo’i hunan, nad yw’r achos apêl yn cael effaith.
(2) Os daw unrhyw afreoleidd-dra o’r fath i sylw’r Cyngor, caiff y Cyngor, cyn dod i’w benderfyniad, roi unrhyw gyfarwyddiadau sy’n gyfiawn ym marn y Cyngor er mwyn unioni neu ddiystyru’r afreoleidd-dra; a rhaid i’r Cyngor wneud hynny os yw o’r farn bod buddiant y naill barti neu’r llall wedi ei beryglu gan yr afreoleidd-dra.
Dogfennau
19 

(1) Ceir anfon unrhyw beth y mae’n ofynnol ei anfon at berson, at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon drwy—
(a) ei drosglwyddo i’r person hwnnw yn bersonol; neu
(b) ei anfon at y person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy’r post; neu
(c) ei anfon ato drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.
(2) Cyfeiriad priodol person yw’r cyfeiriad a ddatganwyd yn yr hysbysiad o apêl neu’r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall yr hysbysir y swyddog priodol ohono yn ddiweddarach.