
2015 Rhif 381 (Cy. 40) (C. 22)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 15) (Cymru) 2015
Gwnaed 24 Chwefror 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 216(4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 15) (Cymru) 2015.
Y Diwrnod Penodedig
2 

(1) Y diwrnod penodedig yw 27 Chwefror 2015.
(2) Daw Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Addysg 2002 (sy’n cynnwys adrannau 1 i 5 ac sy’n ymwneud â phwerau i hwyluso arloesi) i rym ar y diwrnod penodedig.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2015