
2015 Rhif 29 (Cy. 2) (C. 2)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015
Gwnaed 13 Ionawr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) a (5) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Ionawr 2015
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 16 Ionawr 2015—
(a) adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;
(b) adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);
(c) adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;
(d) adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);
(e) adran 12 (ffioedd cofrestru);
(f) adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);
(g) adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;
(h) adran 15 (athrawon addysg bellach);
(i) adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);
(j) adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;
(k) adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(l) adran 21 (sefydlu: dehongli);
(m) adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(n) adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);
(o) adran 26 (swyddogaethau disgyblu);
(p) adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);
(q) adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);
(r) adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(s) adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(t) adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(u) adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);
(v) adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);
(w) adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);
(x) adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);
(y) adran 41 (dehongli Rhan 2);
(z) rhes gyntaf a thrydedd res llinell Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac
(aa) Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2015
3 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 1 Ebrill 2015—
(a) adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 3 (nodau’r Cyngor);
(c) adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);
(d) adran 6 (cyfarwyddiadau);
(e) adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);
(f) adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g) adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);
(h) adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);
(i) adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j) adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);
(k) adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);
(l) adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);
(m) adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);
(n) adran 30 (gorchmynion atal dros dro);
(o) adran 31 (gorchmynion gwahardd);
(p) adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);
(q) adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);
(r) adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);
(s) adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);
(t) adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);
(u) Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(v) paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);
(w) paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac
(x) Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002.
Darpariaethau arbed a throsiannol
4 

(1) Er gwaethaf cychwyn paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf 2014—
(a) mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 33, 35, 36 a 37 o Ddeddf 2014;
(b) mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 10 a 13 o Ddeddf 2014;
(c) mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 26 ac 28 o Ddeddf 2014;
(d) mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 12 o Ddeddf 2014;
(e) mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 17 a 19 o Ddeddf 2014;
(f) mae Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2014; ac
(g) mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 23 o Ddeddf 2014.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn y gorchmynion a’r rheoliadau a nodir ym mharagraff (1) i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at Gyngor y Gweithlu Addysg.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2015