
2015 Rhif 229 (Cy. 11)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015
Gwnaed 11 Chwefror 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2015
Yn dod i rym 9 Mawrth 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9)(b), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o’r Ddeddf honno ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
RHAN A Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Mawrth 2015 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2015.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant fiancial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 16;
 mae i “cod cyfathrebiadau electronig” yr un ystyr ag a roddir i “electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003;
 mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—
(a) cyfarpar o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1) o’r cod cyfathrebiadau electronig;
(b) strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i’w defnyddio, ddim ond i gadw cyfarpar sy’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a); ac
(c) unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddibenion person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 2006 neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 mae “gwerthu nwyddau” (“sale of goods”) yn cynnwys gwerthu unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a) pryd neu luniaeth i’w fwyta neu i’w yfed yn y fangre lle y caiff ei werthu neu ei baratoi neu i ffwrdd o’r fangre honno;
(b) diod feddwol i’w hyfed yn y fangre lle y caiff ei gwerthu neu i ffwrdd o’r fangre honno;
(c) petrol neu danwydd arall i yrru cerbydau modur a fwriedir ar gyfer eu defnyddio ar ffyrdd neu a addaswyd i’w defnyddio ar ffyrdd;
 ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—
(a) a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;
(b) sy’n gwt glan môr neu’n swyddfa bost;
(c) sy’n hereditament a eithrir fel y’i diffinnir yn adran 47(9) o Ddeddf 1988; neu
(d) sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988;
 mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd”, (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 16(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y’i diffinnir yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “mangre fanwerthu” (“retail premises”) yw unrhyw hereditament lle y cynhelir masnach neu fusnes sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn golygu gwerthu nwyddau;
 ystyr “person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), os yw’r trethdalwr—
(a) yn bartneriaeth, yw partner yn y bartneriaeth honno;
(b) yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr yn yr ymddiriedolaeth honno;
(c) yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr yn y corff hwnnw, ac
 mewn unrhyw achos arall, yw person wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr; ac
 ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.
Darpariaeth gyffredinol ynghylch cymhwyso’r Gorchymyn hwn
3 

(1) Nid yw Rhan C o’r Gorchymyn hwn ond yn gymwys pan fo’r diwrnod y codir tâl mewn perthynas ag ef ar ddyddiad o fewn y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ag 31 Mawrth 2016 (“y cyfnod perthnasol”).
(2) Pan fo hereditament yn cydymffurfio ag—
(a) yr amodau yn erthygl 6, 7 neu 9 a hefyd (ar ddiwrnod y codir tâl mewn perthynas ag ef yn ystod y cyfnod perthnasol) yr amodau yn erthygl 12, 13 neu 14;
(b) yr amodau mewn mwy nag un o erthyglau 6, 7, 8 neu 9; neu
(c) (ar ddiwrnod y codir tâl mewn perthynas ag ef yn ystod y cyfnod perthnasol) yr amodau mewn mwy nag un o erthyglau 12, 13 neu 14,
yr erthygl sydd i fod yn gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith fod swm is yn daladwy mewn cysylltiad â’r hereditament.
Uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi
4 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £12,000.
RHAN B Rhyddhad
Amodau rhyddhad
5 
Yr amodau i’w bodloni at ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988 yw’r rhai a ragnodir yn erthyglau 6 i 9.
Amodau gwerth ardrethol
6 
Yr amodau gwerth ardrethol yw—
(a) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £7,800;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.
Amodau gofal plant
7 
Yr amodau gofal plant yw—
(a) bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d) bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £2,000 ond nad yw’n fwy na £12,000; ac
(e) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.
Amodau swyddfa bost
8 
Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau swyddfa bost”) yw—
(a) y defnyddir yr hereditament, neu ran o’r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;
(b) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(d) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.
Amodau mangre fanwerthu
9 
Yr amodau mangre fanwerthu yw—
(a) bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d) bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £7,800 ond nad yw’n fwy nag £11,000;
(e) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16; ac
(f) nad yw’r trethdalwr wedi rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 16 i’r awdurdod bilio, neu i unrhyw awdurdod bilio arall yng Nghymru, mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall.
Swm E
10 

(1) Mae’r swm a bennir ym mharagraff (2) wedi ei ragnodi fel swm E at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 pan fo’r amodau yn erthygl 6, 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni.
(2) Mewn perthynas â hereditament, pan fo’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl wedi eu bodloni a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y golofn (2) gyfatebol, yna E yw’r swm a bennir yn y golofn (3) gyfatebol.

Tabl(1)Erthygl (2)Gwerth Ardrethol(£) (3)Swm E
6 (Gwerth Ardrethol) 0 i 2,400 2
6 (Gwerth Ardrethol) 2,401 i 7,800 1.333333
7 (Gofal Plant) 2,001 i 12,000 2
8 (Swyddfa Bost) 0 i 9,000 1,000,000
8 (Swyddfa Bost) 9,001 i 12,000 2
9 (Mangre Fanwerthu) 7,801 i 11,000 1.333333
RHAN C Rhyddhad dros dro
Amodau rhyddhad
11 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, yr amodau i’w bodloni yw’r rhai a ragnodir yn erthygl 12, 13 neu 14.
Amodau gwerth ardrethol
12 
Yr amodau gwerth ardrethol yw—
(a) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.
Amodau gofal plant
13 
Yr amodau gofal plant yw—
(a) bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £9,000; ac
(e) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.
Amodau mangre fanwerthu
14 
Yr amodau mangre fanwerthu yw—
(a) bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu;
(b) bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £10,499 ond nad yw’n fwy nag £11,000;
(c) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16; a
(d) nad yw’r trethdalwr wedi rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 16 i’r awdurdod bilio, neu i unrhyw awdurdod bilio arall yng Nghymru, mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall.
Swm E
15 

(1) Mae’r swm a bennir ym mharagraff (2), neu a gyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw, wedi ei ragnodi fel swm E at ddibenion is-adran 44(9) o Ddeddf 1988 pan fo’r amodau yn erthygl 12, 13 neu 14 wedi eu bodloni.
(2) Mewn perthynas â hereditament, pan fo’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl isod wedi eu bodloni a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y golofn (2) gyfatebol, yna E yw’r swm a bennir neu a gyfrifir yn y golofn (3) gyfatebol.

Tabl(1)Erthygl (2)Gwerth Ardrethol(£) (3)Swm E
 0 i 6,000 5,000,000
12 (Gwerth Ardrethol) 6,001 i 12,000 Cyfrifir yn unol â pharagraffau (3) a (4) o’r erthygl hon
13 (Gofal Plant) 0 i 6,000 5,000,000
13 (Gofal Plant) 6,001 i 9,000 Cyfrifir yn unol â pharagraffau (3) a (4) o’r erthygl hon
14 (Mangre Fanwerthu) 10,500 i 11,000 1.333333
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), cyfrifir swm E drwy rannu 6000 â’r ffigur a gyrhaeddir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw.
(4) Cyfrifir y symiau a gyfrifir o dan baragraff (3) i dri lle degol yn unig—
(a) drwy ychwanegu un milfed pan fyddai (ar wahân i’r is-baragraff hwn) fwy na phum deng milfed; a
(b) drwy anwybyddu’r deng milfedau pan fyddai (ar wahân i’r is-baragraff hwn) bum, neu lai na phum, deng milfed.
RHAN D Amrywiol
Hysbysiad
16 

(1) Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
(3) Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy’n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â’r hereditament y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef—
(a) pan fo’r rhan o’r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid rhestr ardrethu annomestig leol; a
(b) pan roddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw am y newid yn unol â rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (newid rhestrau),
caniateir i’r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach na’r dyddiad pryd y mae’r newid yn dod yn effeithiol o dan y rheoliadau hynny.
(5) Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod sy’n gynharach nag 1 Ebrill 2015.
(6) Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
(a) ei gyfeirio at yr awdurdod; a
(b) ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(7) Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
(8) Pan fydd hysbysiad wedi ei roi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach yn unol â’r erthygl hon mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol dilynol hynny y caiff yr awdurdod eu pennu o bryd i’w gilydd.
Dirymu a darpariaeth arbed
17 
Mae’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 2 wedi eu dirymu ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2015 neu cyn hynny.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, , un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2015
ATODLEN 1
Gwybodaeth a materion eraill i’w cynnwys mewn hysbysiad
Erthygl 16
1 
Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (os yw’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os yw’n gymwys) y trethdalwr.
2 
Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef ac, os yw hynny’n hysbys, ei rif cyfrif ardrethu annomestig.
3 
Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—
(a) cadarnhad—
(i) bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(ii) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(b) enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.
4 
Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.
5 
Yn achos mangre fanwerthu—
(a) cadarnhad—
(i) bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(ii) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(b) cyfeiriad llawn unrhyw hereditament arall neu hereditamentau eraill yng Nghymru y mae’r trethdalwr yn ei feddiannu neu’n eu meddiannu neu wedi ei feddiannu neu eu meddiannu ar unrhyw adeg ers y dyddiad ym mharagraff 7 isod;
(c) cadarnhad nad yw’r trethdalwr nac unrhyw un ar ei ran wedi rhoi hysbysiad o dan erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall;
(d) os na ellir rhoi’r cadarnhad yn is-baragraff (c), rhaid darparu manylion llawn unrhyw hysbysiad a roddwyd i awdurdod bilio; ac
(e) ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio o’r canlynol—
(i) cyfeiriad unrhyw hereditament yng Nghymru y mae’r trethdalwr wedi dechrau ei feddiannu ers iddo roi’r hysbysiad;
(ii) y dyddiad pryd y dechreuodd y trethdalwr feddiannu’r hereditament hwnnw;
(iii) y dyddiad pryd y peidiodd y trethdalwr â meddiannu’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 at ddibenion mangre fanwerthu;
(iv) y dyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru gan neu ar ran y trethdalwr o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â hereditament ac eithrio’r un a grybwyllir ym mharagraff 2 a chyfeiriad yr hereditament arall hwnnw.
6 
Ac eithrio yn achos swyddfa bost, cadarnhad nad yw’r hereditament yn eiddo a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn.
7 
Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—
(a) y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu
(b) y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.
8 
Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw o’r farn y gallai beidio â bod mwyach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.
9 
Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.
10 
Llofnod y trethdalwr neu’r person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
11 
Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
12 
Dyddiad yr hysbysiad.
ATODLEN 2
Dirymu ac arbed
Erthygl 17

Gorchmynion sydd wedi eu dirymu Cyfeirnodau
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 O.S. 2008/2770 (Cy. 246)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2010 O.S. 2010/273 (Cy. 36)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010 O.S. 2010/2223 (Cy. 195)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011 O.S. 2011/995 (Cy. 148)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2012 O.S. 2012/465 (Cy. 76)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2013 O.S. 2013/371 (Cy. 44)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2014 O.S. 2014/372 (Cy. 40)