
2015 Rhif 2076 (Cy. 312)
Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr
Gorchymyn Cramenogion Penodedig (Gwahardd eu Pysgota, eu Glanio, eu Gwerthu a’u Cludo) (Cymru) 2015
Gwnaed 23 Rhagfyr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym 1 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1(1), (2), (3), (4) a (6), 5(1) a (2), 6(1) a (3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 ac adrannau 189(1) a 316(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cramenogion Penodedig (Gwahardd eu Pysgota, eu Glanio, eu Gwerthu a’u Cludo) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Chwefror 2016.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae erthyglau 3(f), (g), (h) ac (i) a 6(1)(f) yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cimwch” (“lobster”) yw cimwch o’r rhywogaeth Homarus gammarus;
 ystyr “cimwch coch” (“crawfish”) yw cimwch coch o’r rhywogaethau Palinurus elephas a Palinurus mauritanicus;
 ystyr “cranc coch” (“edible crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Cancer pagurus;
 ystyr “cranc gwyrdd” (“green crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Carcinus maenas;
 ystyr “cranc heglog” (“spider crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Maia spp;
 ystyr “cranc llygatgoch” (“velvet crab”) yw cranc o’r rhywogaeth Necora puber;
 ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bersonau sy’n gymwys i fod yn berchen ar longau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o’r Ddeddf honno;
 mae i “Cymru” yr un ystyr a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “hollt V” (“V notch”) yw marc ar ffurf y llythyren “V” wedi ei dorri mewn o leiaf un o bum llabed cynffon unrhyw gimwch neu gimwch coch, ag apig y llythyren “V” wedi ei gosod at i mewn o ymyl y llabed;
 ystyr “llong dramor” (“foreign vessel”) yw unrhyw gwch pysgota ar wahân i gwch pysgota Prydeinig;
 ystyr “maint” (“size”) yw—
(a) mewn perthynas â chimwch coch, hyd y gragen, ar hyd y llinell ganol, o flaen y pigyn gylfinog canol hyd at ymyl pellaf y gragen, fel a ddangosir yn Niagram 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,
(b) mewn perthynas â chranc coch, lled y gragen wedi ei fesur ar draws rhan letaf y cefn, fel a ddangosir yn Niagram 2 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,
(c) mewn perthynas â chimwch, hyd y gragen, wedi ei fesur yn gyflin â’r llinell ganol o gefn twll unrhyw un o’r llygaid hyd at ymyl pellaf y gragen, fel a ddangosir yn Niagram 3 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,
(d) mewn perthynas â chranc heglog, hyd y gragen, ar hyd y llinell ganol, o ymyl y gragen rhwng y gylfinod hyd at ymyl ôl y gragen, fel a ddangosir yn Niagram 4 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, ac
(e) mewn perthynas â chranc llygatgoch, lled y gragen wedi ei fesur ar draws rhan letaf y cefn, heb gynnwys pigau, fel a ddangosir yn Niagram 2 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
 mae i “parth Cymru” yr un ystyr a roddir i “Welsh Zone” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac
 ystyr “wedi ei lurgunio” (“mutilated”) mewn perthynas â chimwch neu gimwch coch, yw cimwch neu gimwch coch sydd wedi ei lurgunio mewn modd sy’n cuddio hollt V.
Gwahardd pysgota am gimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig
3 

(1) Gwaherddir pysgota am—
(a) cimwch coch sy’n llai na 110 o filimetrau o faint;
(b) cimwch sy’n llai na 90 o filimetrau o faint;
(c) cranc coch sy’n llai na 140 o filimetrau o faint;
(d) cranc heglog benyw sy’n llai na 120 o filimetrau o faint;
(e) cranc heglog gwryw sy’n llai na 130 o filimetrau o faint;
(f) cranc llygatgoch sy’n llai na 65 o filimetrau o faint;
(g) cimwch coch wedi ei lurgunio;
(h) cimwch wedi ei lurgunio; neu
(i) unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V.
(2) Caiff pysgota o longau tramor ei esemptio o’r gwaharddiad a osodir gan baragraff (1).
Gwahardd glanio cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig
4 

(1) At ddibenion adran 1(1) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer—
(a) cimwch coch, yw 110 o filimetrau;
(b) cimwch, yw 90 o filimetrau;
(c) cranc coch, yw 140 o filimetrau;
(d) cranc heglog benyw, yw 120 o filimetrau;
(e) cranc heglog gwryw, yw 130 o filimetrau; ac
(f) cranc llygatgoch, yw 65 o filimetrau.
(2) Caiff glanio o longau tramor ei esemptio o’r gwaharddiad a osodir gan adran 1(1) o’r Ddeddf fel y’i darllenir ynghyd â pharagraff (1).
(3) Gwaherddir glanio unrhyw—
(a) cimwch coch wedi ei lurgunio;
(b) cimwch wedi ei lurgunio;
(c) cimwch coch neu gimwch â hollt V; neu
(d) crafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch,
ni waeth lle y’u daliwyd.
(4) Caiff glanio o longau tramor ei esemptio o’r gwaharddiad a osodir gan baragraff (3).
Gwahardd gwerthu cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig, eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu neu feddu arnynt
5 

(1) At ddibenion adran 1(2) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd gwerthu unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw, rhoi unrhyw bysgodyn o’r fath ar ddangos i’w werthu neu gynnig ei werthu, neu feddu ar bysgodyn o’r fath at ddiben ei werthu), rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer—
(a) cimwch coch, yw 110 o filimetrau;
(b) cimwch, yw 90 o filimetrau;
(c) cranc coch, yw 140 o filimetrau;
(d) cranc heglog benyw, yw 120 o filimetrau;
(e) cranc heglog gwryw, yw 130 o filimetrau; ac
(f) cranc llygatgoch, yw 65 o filimetrau.
(2) Ceir esemptiad o’r gwaharddiad a osodwyd gan adran 1(2) o’r Ddeddf fel y’i darllenir ynghyd â pharagraff (1) ar gyfer gwerthu cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc heglog neu granc llygatgoch sy’n cael eu glanio o longau tramor, ac ar gyfer eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu, neu feddu arnynt at ddiben eu gwerthu.
(3) Gwaherddir gwerthu, rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig gwerthu unrhyw—
(a) cimwch coch wedi ei lurgunio;
(b) cimwch wedi ei lurgunio;
(c) cimwch coch neu gimwch â hollt V; neu
(d) crafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch,
ni waeth lle y’u daliwyd.
(4) Ceir esemptiad o’r gwaharddiad a osodwyd gan baragraff (3) ar gyfer gwerthu cimwch coch, cimwch neu rannau o grancod penodedig sy’n cael eu glanio o longau tramor, ac ar gyfer eu rhoi ar ddangos i’w gwerthu neu gynnig eu gwerthu.
Gwahardd cludo cimwch coch, cimwch, cranc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog a chranc llygatgoch penodedig ar gwch pysgota Prydeinig
6 

(1) At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw ar gychod pysgota penodedig), gwaherddir cwch pysgota Prydeinig rhag cludo unrhyw—
(a) cimwch coch sy’n llai na 110 o filimetrau o faint;
(b) cimwch sy’n llai na 90 o filimetrau o faint;
(c) cranc coch sy’n llai na 140 o filimetrau o faint;
(d) cranc heglog benyw sy’n llai na 120 o filimetrau o faint;
(e) cranc heglog gwryw sy’n llai na 130 o filimetrau o faint; ac
(f) cranc llygatgoch sy’n llai na 65 o filimetrau o faint.
(2) Gwaherddir cludo ar gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru—
(a) cimwch coch wedi ei lurgunio;
(b) cimwch wedi ei lurgunio;
(c) unrhyw gimwch coch neu gimwch â hollt V;
(d) crafanc neu ran ddatgysylltiedig arall o unrhyw granc coch, cranc gwyrdd, cranc heglog neu granc llygatgoch,
ni waeth lle y’u daliwyd.
Dirymiadau a diwygiadau canlyniadol
7 

(1) Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—
(a) Gorchymyn Crancod Rhy Fach 1986;
(b) Gorchymyn Crancod Rhy Fach (Amrywio) 1989;
(c) Gorchymyn Cimychiaid Rhy Fach 1993;
(d) Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) (Cymru) 2002;
(e) Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002.
(2) Mae Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a’u Glanio) 2000 wedi ei ddirymu mewn perthynas â’r rhan o barth Cymru sy’n ymestyn tu hwnt i Gymru.
(3) Mae Gorchymyn Crancod Llygatgoch Rhy Fach 1989 wedi ei ddirymu mewn perthynas â Chymru a pharth Cymru.
(4) Mae Is-ddeddfau a ganlyn y cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a) Is-ddeddf 3 (Cimychiaid – Maint lleiaf);
(b) Is-ddeddf 5 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V);
(c) Is-ddeddf 6 (Crancod – Maint lleiaf);
(d) Is-ddeddf 7 (Cimychiaid Cochion – Maint lleiaf); ac
(e) Is-ddeddf 46 (Rhannau o Bysgod Cregyn Cramennog).
(5) Mae Is-ddeddfau a ganlyn cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a) Is-ddeddf 29 (Maint lleiaf Cimychiaid); a
(b) Is-ddeddf 31 (Gwarchod Cimychiaid â Hollt V).
(6) Yng Ngorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010—
(a) yn y Tabl yn Atodlen 3, dileer y rhesi sy’n ymwneud ag Is-ddeddfau 3, 5, 6, 7 a 46; a
(b) yn y Tabl yn Atodlen 4, dileer y rhesi sy’n ymwneud ag Is-ddeddfau 29 a 31.
(7) Yn Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, yn y Tabl yn pennu meintiau lleiaf pysgod cragen, dileer y rhesi sy’n ymwneud â’r Cimwch Coch (Palinurus spp), y Cranc Coch (Cancer pagurus), y Cimwch (Homarus gammarus), y Cranc Heglog (Maja squinado) a’r Cranc Llygatgoch (Liocarcinus puber).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
23 Rhagfyr 2015
YR ATODLEN
MESUR MAINT CRAMENOGION PENODEDIG
Erthygl 2

Diagram 1 (Cimwch Coch)

Diagram 2 (Cranc Coch a Chranc Llygatgoch)

Diagram 3 (Cimwch)

Diagram 4 (Cranc Heglog)

