
2015 rhif 2068 (Cy. 311)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Rhagfyr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym 31 Ionawr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12A(4) a (5) a 12B(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Dosbarth 1” (“Class 1”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 4;
 ystyr “Dosbarth 2” (“Class 2”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 5;
 ystyr “Dosbarth 3” (“Class 3”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 6;
 ystyr “Dosbarth 4” (“Class 4”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 7;
 ystyr “Dosbarth 5” (“Class 5”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 8;
 ystyr “Dosbarth 6” (“Class 6”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 9;
 ystyr “Dosbarth 7” (“Class 7”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 10;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;mae cyfeiriadau at briod person yn cynnwys cyfeiriadau at berson sy’n byw gyda’r llall fel petai’n briod i’r person hwnnw; acmae cyfeiriadau at bartner sifil person yn cynnwys cyfeiriadau at berson o’r un rhyw sy’n byw gyda’r llall fel petai’n bartner sifil y person hwnnw.
Dosbarthau rhagnodedig
3 

(1) Mae Dosbarthau 1, 2, 3 a 4 wedi eu rhagnodi’n ddosbarthau ar annedd at ddibenion adrannau 12A(4) a 12B(5) o’r Ddeddf.
(2) Mae Dosbarthau 5, 6 a 7 wedi eu rhagnodi’n ddosbarthau ar annedd at ddiben adran 12B(5) o’r Ddeddf.
Dosbarth 1
4 

(1) Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 1”) wedi ei ffurfio o bob annedd sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) onid yw wedi bod yn annedd o’r fath am gyfnod o un flwyddyn neu fwy—
(a) annedd sydd yn cael ei marchnata i’w gwerthu am bris sy’n rhesymol ar gyfer ei gwerthu;
(b) annedd lle mae cynnig i brynu’r annedd wedi ei dderbyn (p’un a yw’r derbyniad yn ddarostyngedig i gontract ai peidio) ond bod y gwerthiant heb ei gwblhau.
(2) Ar ôl diwedd cyfnod a eithrir nid yw annedd yn dod o fewn Dosbarth 1 am gyfnod pellach onid yw’r annedd wedi bod yn destun trafodiad perthnasol.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae marchnata annedd i’w gwerthu yn cynnwys marchnata i werthu—
(i) y rhydd-ddaliad; neu
(ii) lesddaliad am dymor o saith mlynedd neu fwy;
(b) y “cyfnod a eithrir” (“excepted period”) yw’r cyfnod pryd y mae annedd yn dod o fewn Dosbarth 1;
(c) ystyr “trafodiad perthnasol” (“relevant transaction”) yw trosglwyddiad wrth werthu’r rhydd-ddaliad neu drosglwyddiad wrth werthu’r lesddaliad am dymor o saith mlynedd neu fwy.
Dosbarth 2
5 

(1) Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 2”) wedi ei ffurfio o bob annedd sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) onid yw wedi bod yn annedd o’r fath am gyfnod o un flwyddyn neu fwy—
(a) annedd sydd yn cael ei marchnata i’w gosod o dan denantiaeth ar delerau ac amodau, gan gynnwys y rhent arfaethedig, sy’n rhesymol ar gyfer gosod yr annedd honno;
(b) annedd lle mae cynnig i rentu’r annedd wedi ei dderbyn (p’un a yw’r derbyniad yn ddarostyngedig i gontract ai peidio) ond nad yw’r denantiaeth wedi dechrau.
(2) Ar ôl diwedd cyfnod a eithrir nid yw annedd yn dod o fewn Dosbarth 2 am gyfnod pellach onid yw wedi bod yn ddarostyngedig i denantiaeth a roddwyd am dymor o chwe mis neu fwy.
(3) At ddiben y rheoliad hwn y “cyfnod a eithrir” (“excepted period”) yw’r cyfnod pryd y mae annedd yn dod o fewn Dosbarth 2.
Dosbarth 3
6 

(1) Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 3”) wedi ei ffurfio o bob annedd—
(a) sy’n rhan o eiddo unigol sy’n cynnwys o leiaf un annedd arall; a
(b) sy’n cael ei defnyddio gan breswylydd yr annedd arall honno, neu yn ôl y digwydd, yr anheddau eraill hynny, fel rhan o’i breswylfa.
(2) At ddiben paragraff (1), ystyr “eiddo unigol” (“single property”) yw eiddo a fyddai, ar wahân i Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992, yn un annedd o fewn ystyr adran 3 o’r Ddeddf.
Dosbarth 4
7 

(1) Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 4”) wedi ei ffurfio o bob annedd a fyddai’n unig neu brif breswylfa unigolyn pe na bai’r unigolyn hwnnw yn preswylio mewn llety’r lluoedd arfog.
(2) At ddiben y rheoliad hwn—
(a) “llety’r lluoedd arfog” (“armed forces accommodation”) yw llety a ddarperir i—
(i) aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi; neu
(ii) aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi;
at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi;
(b) mae person yn aelod o deulu rhywun arall—
(i) os yw’n briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw; neu
(ii) os yw’n rhiant, yn fam-gu/nain neu’n dad-cu/taid, yn blentyn, yn ŵyr neu’n wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai neu’n nith i’r person hwnnw.
Dosbarth 5
8 

(1) Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 5”) wedi ei ffurfio o bob annedd sy’n cynnwys llain a feddiennir gan garafán neu angorfa a feddiennir gan gwch.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dehonglir “carafán” yn unol â dehongliad “caravan” yn adran 7 o’r Ddeddf.
Dosbarth 6
9 

(1) Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sy’n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn.
(2) At ddiben y rheoliad hwn ystyr “amod cynllunio” (“planning condition”) yw unrhyw amod a osodir ar ganiatâd cynllunio sydd wedi ei roi neu y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Dosbarth 7
10 

(1) Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 7”) wedi ei ffurfio o bob annedd—
(a) pan fo person cymhwysol mewn perthynas â’r annedd honno yn preswylio mewn annedd arall sydd, ar gyfer y person hwnnw, yn gysylltiedig â swydd; neu
(b) sydd, ar gyfer person cymhwysol, yn gysylltiedig â swydd.
(2) At ddiben y rheoliad hwn mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person os yw’n dod o fewn un o’r disgrifiadau a nodir ym mharagraffau 1, 2 neu 3 o’r Atodlen.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw—
(a) person sy’n atebol am dalu treth gyngor mewn cysylltiad ag annedd ar ddiwrnod penodol, p’un ai ar y cyd â pherson arall ai peidio; neu
(b) person a fyddai’n atebol am dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad ag annedd ar ddiwrnod penodol, p’un ai ar y cyd â pherson arall ai peidio, os nad oedd yr annedd honno’n dod o fewn—
(i) Dosbarth O o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992; neu
(ii) Dosbarth E o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2015
YR ATODLEN
Anheddau cysylltiedig â swydd
Rheoliad 10(2)
Anheddau sydd wedi eu darparu am resymau penodedig
1 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person os yw wedi ei darparu iddo oherwydd ei gyflogaeth, neu i’w briod neu bartner sifil oherwydd ei gyflogaeth yntau, mewn unrhyw un o’r achosion a ganlyn—
(a) pan fo’n angenrheidiol i’r cyflogai breswylio yn yr annedd honno er mwyn i ddyletswyddau’r gyflogaeth gael eu cyflawni’n briodol;
(b) pan fo’r annedd wedi ei darparu er mwyn i ddyletswyddau’r gyflogaeth gael eu cyflawni’n well, a honno’n un o’r mathau o gyflogaeth lle y mae’n arferol i gyflogwyr ddarparu anheddau ar gyfer cyflogeion; neu
(c) pan fo, oherwydd bygythiad arbennig i ddiogelwch y cyflogai, trefniadau arbennig mewn grym, a bod y cyflogai’n preswylio yn yr annedd fel rhan o’r trefniadau hynny.
(2) Os yw’r annedd wedi ei darparu gan gwmni a bod y cyflogai yn gyfarwyddwr y cwmni hwnnw neu gwmni cysylltiedig, nid yw is-baragraff (1)(a) nac (1)(b) yn gymwys oni bai—
(a) bod y gyflogaeth yn un fel cyfarwyddwr sy’n gweithio’n llawn amser;
(b) bod y cwmni yn un nad yw’n gwneud elw, hynny yw, nid yw’n cynnal masnach, ac nid yw ei swyddogaethau, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, yn golygu dal buddsoddiadau neu eiddo arall; neu
(c) bod y cwmni wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig.
Anheddau sydd wedi eu darparu o dan gontract
2 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person, os yw’n ofynnol i’r person hwnnw, neu i’w briod neu i’w bartner sifil, o dan gontract y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, fyw yn yr annedd honno.
(2) Mae contract y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn gontract yr ymrwymir iddo ar hyd braich ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r person o dan sylw, neu i’w briod neu i’w bartner sifil (yn ôl y digwydd) gynnal masnach benodol, dilyn proffesiwn penodol neu ddilyn galwedigaeth benodol mewn eiddo sydd wedi ei darparu gan berson arall ac i fyw mewn annedd sydd wedi ei darparu gan y person arall hwnnw.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r annedd o dan sylw, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, wedi ei darparu gan unrhyw berson arall neu bersonau eraill y mae’r priod neu’r partner sifil (yn ôl y digwydd) yn cynnal, ynghyd ag ef neu hwy, fasnach neu fusnes mewn partneriaeth.
Gweinidogion crefydd
3 
Mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person—
(a) os yw’r person hwnnw, neu os yw ei briod neu ei bartner sifil, yn weinidog unrhyw enwad crefyddol; a
(b) os yw’r annedd wedi ei chyfanheddu er mwyn caniatáu i’r person hwnnw, neu i’w briod neu i’w bartner sifil (yn ôl y digwydd), gyflawni dyletswyddau ei swydd.
Dehongli
4 
Yn yr Atodlen hon—mae cwmni yn gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw’r ddau o dan reolaeth yr un person;
 mae i “cyfarwyddwr”, “cyfarwyddwr sy’n gweithio’n llawn amser” a “rheolaeth”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yr un ystyr ag a roddir i “director”, “full-time working director”, a “control”, yn y drefn honno, yn adrannau 67 a 69 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 mewn perthynas â’r cod buddion;
 ystyr “wedi ei darparu” neu “wedi eu darparu” (“provided”) yw wedi ei darparu neu wedi eu darparu o dan denantiaeth neu fel arall.