
2015 Rhif 2046 (Cy. 310) (C. 127)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015
Gwnaed 15 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) a (4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;
 ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwrnodau penodedig
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw’r diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a) adran 139 (swm y dreth sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o anheddau);
(b) Rhan 4 o Atodlen 3 (y dreth gyngor ar gyfer mathau penodol o anheddau).
(2) At ddibenion adran 12A(12) o Ddeddf 1992, y diwrnod penodedig i adran 139 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 12A o Ddeddf 1992, yw 1 Ebrill 2016.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2015