
2015 Rhif 2019 (Cy. 307) (C. 124)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015
Gwnaed 10 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 25(3) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
Diwrnod penodedig
2 
4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015—
(a) adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol);
(b) adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol);
(c) adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol);
(d) adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol); ac
(e) adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2015