
2015 Rhif 2001 (Cy. 304)
Amaethyddiaeth, Cymru
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015
Gwnaed 8 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym 9 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 16 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 17(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Addasu Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998
2 
Mae adran 46(4) o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 wedi ei haddasu fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “and”;
(b) ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder—“; and
(d) the Agricultural Sector (Wales) Act 2014.”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2015