
2015 Rhif 1991 (Cy. 301)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) (Rhif 2) 2015
Gwnaed 8 Rhagfyr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym 1 Ionawr 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.

Yn unol ag adran 21(5) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub ac unrhyw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) (Rhif 2) 2015 a daw i rym ar 1 Ionawr 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) 2015 wedi ei ddirymu.
Y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub
3 
Bydd y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, a luniwyd gan Weinidogion Cymru, sy’n dwyn yr enw “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016” ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 25 Tachwedd 2015, yn cael effaith fel adolygiad, sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arwyddocaol, o Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2016