
2015 Rhif 1987 (Cy. 297) (C. 123)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015
Gwnaed 2 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Ionawr 2016
2 
Y diwrnod penodedig i adran 3 o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf 2004 yw 4 Ionawr 2016.
3 
Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 4 Ionawr 2016—
(a) adran 11;
(b) adran 12;
(c) adran 13;
(d) adran 14; ac
(e) adran 31.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Mawrth 2016
4 
Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 16 Mawrth 2016—
(a) adran 15(1) a (2);
(b) adran 40;
(c) adran 41; a
(d) adran 42.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016
5 
Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym yw 1 Ebrill 2016—
(a) adran 2; a
(b) adran 15(3).
Darpariaethau trosiannol ac arbed
6 
Nid yw adrannau 2 ac 11(3) o Ddeddf 2015 yn gymwys i gynllun datblygu lleol sydd wedi ei gyflwyno i’w archwilio yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004 pan ddaw’r adrannau i rym. Mae’r adrannau’n gymwys i gynllun o’r fath ar ôl iddo gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004.
7 
Mae adran 60 o Ddeddf 2004 yn parhau i gael effaith fel pe na bai adran 3 o Ddeddf 2015 wedi ei chychwyn gan erthygl 2.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2015