
2015 Rhif 194 (Cy. 9)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015
Gwnaed 10 Chwefror 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Gorchmynion a nodir yn yr Atodlen wedi eu dirymu.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “gwladwriaeth berthnasol” (“relevant state”) yw gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC ar system gyffredinol o gydnabod cymwysterau proffesiynol; ac
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau’r Gymuned Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.
Swyddogaethau Ychwanegol
3 

(1) Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, ac yntau wedi ei bennu’n awdurdod cymwys yn unol â’r Rheoliadau, i gael y swyddogaeth o ystyried ceisiadau a rhoi awdurdodiadau i arfer proffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru at ddiben y Gyfarwyddeb.
(2) Mae’r Cyngor i roi cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd am y gofynion o ran cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a geir mewn gwladwriaeth berthnasol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2015
YR ATODLEN
Y GORCHMYNION A DDIRYMIR
Erthygl 1


Y gorchmynion a ddirymir Cyfeiriadau Graddau’r dirymu
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 O.S. 2000/1941 (Cy. 139) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001 O.S. 2001/2497 (Cy. 201) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 O.S. 2005/36 (Cy. 3) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005 O.S. 2005/68 (Cy. 6) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006 O.S. 2006/1341 (Cy. 132) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007 O.S. 2007/2810 (Cy. 237) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2009 O.S. 2009/1351 (Cy. 127) Yn llawn
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012 O.S. 2012/167 (Cy. 26) Yn llawn