
2015 Rhif 1937 (Cy. 291)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015
Gwnaed 24 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 18 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2015.
Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
2 
Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt, neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt;”;
(b) ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—“
 ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;”
4 
Yn Atodlen 1 (Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig), yn lle paragraff 5 rhodder—“
Awdurdodiad pendant
5. 
Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 neu Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.”
5 
Yn Atodlen 2 (Gweithgareddau sy’n achosi difrod)—
(a) yn lle paragraff 2 (Gweithredu gweithfeydd a ganiateir) rhodder—“
Gweithredu gweithfeydd a ganiateir
2. 
Gweithredu gweithfeydd sy’n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”
(b) ym mharagraff 3(2) (Gweithrediadau rheoli gwastraff) yn lle’r geiriau “Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylosgi gwastraff” rhodder “Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”;
(c) ym mharagraff 5(2) (Gollyngiadau y mae’n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer) ar ôl y gair “penodol” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad”;
(d) (ch) ym mharagraff 7(ch) (Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol) ar ôl y gair “farchnad”, mewnosoder “neu fel y’u diffinir yn Erthygl 3(1)(a) o Reoliad Rhif 528/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar gael ar y farchnad a’r defnydd ohonynt”.
(e) yn lle paragraff 8 rhodder—“
Cludiant
8. 
Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy’r awyr nwyddau peryglus; neu nwyddau llygru fel y’u diffinnir yn—
(a) Cyfarwyddeb 2002/59/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sefydlu system fonitro traffig a gwybodaeth llestrau Cymunedol; a
(b) Cyfarwyddeb 2008/68/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo nwyddau peryglus ar y tir”.
(f) Yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 10 mewnosoder—“
Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid
11. 
Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar storio daearegol o garbon deuocsid.”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2015