
2015 Rhif 1932 (Cy. 290)
Tai, Cymru
Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015
Gwnaed 18 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 40(7) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enw
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015.
Dyddiad Penodedig
2 
Y dyddiad penodedig ar gyfer dwyn i rym God Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (y cymeradwywyd drafft ohono drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2015) yw 23 Tachwedd 2015.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2015