
2015 Rhif 1924 (Cy. 287)
Llesiant, Cymru
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
Gwnaed 17 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 23 Tachwedd 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Yn unol ag adran 54(4)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2015.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â’r cyfnod cyntaf y mae rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymchwiliadau o’i fewn o dan adran 15 o’r Ddeddf
3 
Er gwaethaf adran 15(6)(a) o’r Ddeddf, mae’r cyfnod cyntaf y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3) o adran 15 yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd fis cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: Amcangyfrif incwm a gwariant 2016-2017
4 
At ddibenion y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017, mae paragraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai “heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl penodiad y Comisiynydd o dan adran 17(2)” wedi ei roi yn lle “o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2015