
2015 Rhif 1920 (Cy. 286)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015
Gwnaed 18 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 191(7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau” (“a members’ voluntary winding up”) yw dirwyn busnes i ben pan fo datganiad statudol wedi ei wneud o dan adran 89 o Ddeddf 1986 neu erthygl 75 o Orchymyn 1989;
 ystyr “darparwr” (“a provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth;
 ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 1986;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “Gorchymyn 1989” (“the 1989 Order”) yw Gorchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989;
 ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) yw’r swm a bennir yn adran 123(1)(a) o Ddeddf 1986 (diffiniad o fethiant â thalu dyledion).
Methiant busnes
2 

(1) At ddibenion adrannau 189 a 191 o’r Ddeddf—
(a) mae i fethiant busnes yr ystyr a roddir ym mharagraffau (2) i (5); a
(b) mae darparwr i’w drin fel pe bai’n methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes os yw methiant y darparwr â gwneud hynny yn dilyn methiant busnes.
(2) Pan na fo darparwr yn unigolyn, mae methiant busnes yn golygu, mewn cysylltiad â’r darparwr hwnnw—
(a) bod penodi gweinyddwr (o fewn yr ystyr a roddir i “administrator” gan baragraff 1(1) o Atodlen B1 i Ddeddf 1986 neu baragraff 2(1) o Atodlen B1 i Orchymyn 1989) yn cymryd effaith;
(b) bod derbynnydd yn cael ei benodi;
(c) bod derbynnydd gweinyddol fel y diffinnir “administrative receiver” yn adran 251 o Ddeddf 1986 neu erthygl 5 o Orchymyn 1989 yn cael ei benodi;
(d) bod penderfyniad i ddirwyn busnes i ben yn wirfoddol yn cael ei basio ac eithrio mewn achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau;
(e) bod gorchymyn dirwyn i ben yn cael ei wneud;
(f) bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent) yn cael ei wneud;
(g) bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent (Gogledd Iwerddon) 1995 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent) yn cael ei wneud;
(h) bod ymddiriedolwyr elusen y darparwr yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;
(i) bod pob aelod o’r bartneriaeth (mewn achos pan fo’r darparwr yn bartneriaeth) yn cael ei wneud yn fethdalwr; neu
(j) bod trefniant gwirfoddol sydd wedi ei gynnig at ddibenion Rhan I o Ddeddf 1986 neu Ran 2 o Orchymyn 1989 wedi ei gymeradwyo o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno neu’r Gorchymyn hwnnw.
(3) Mewn perthynas â darparwr sy’n unigolyn, mae methiant busnes yn golygu—
(a) bod yr unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr;
(b) bod yr unigolyn yn cynnig trefniant gwirfoddol yn unol â Rhan 8 o Ddeddf 1986 neu Ran 8 o Orchymyn 1989 neu’n ymrwymo i drefniant o’r fath; neu
(c) bod gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud o dan Ran VIIA o Ddeddf 1986 neu Ran 7A o Orchymyn 1989.
(4) At ddibenion paragraff (2)(h), mae person yn ymddiriedolwr elusen darparwr—
(a) os yw’r darparwr yn elusen sy’n anghorfforedig; a
(b) os yw’r person yn un o ymddiriedolwyr yr elusen honno.
(5) At ddibenion paragraff (2)(h), mae ymddiriedolwyr elusen darparwr i’w trin fel pe baent yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus—
(a) os yw credydwr y mae ar yr ymddiriedolwyr iddynt swm sy’n fwy na’r swm perthnasol a oedd yn ddyledus bryd hynny wedi cyflwyno i’r ymddiriedolwyr archiad ysgrifenedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ymddiriedolwyr dalu’r swm sy’n ddyledus felly a bod yr ymddiriedolwyr, am 3 wythnos wedi hynny, wedi peidio â thalu’r swm neu ei sicrhau neu gyfamodi i’w dalu er boddhad rhesymol y credydwr;
(b) yng Nghymru a Lloegr, os yw darafaeliad neu broses arall a ddyroddir ar ddyfarniad, archddyfarniad neu orchymyn llys o blaid un o gredydwyr yr ymddiriedolwyr heb ei bodloni yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
(c) yn yr Alban, os yw induciae archiad am daliad ar archddyfarniad cryno, neu fond cofrestredig cryno, neu brotest cofrestredig cryno, wedi dod i ben heb i daliad gael ei wneud; neu
(d) yng Ngogledd Iwerddon, os yw tystysgrif anorfodadwyedd wedi ei rhoi mewn cysylltiad â dyfarniad yn erbyn yr ymddiriedolwyr.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2015